Arolwg Cenedlaethol Gweithlu Addysg Cymru

Taking notes and working on laptop.jpg

Mewn ychydig ddyddiau, bydd nifer gyfyngedig o ddysgwyr galwedigaethol yn dychwelyd i'r coleg a bydd y dasg bwysig o lunio Graddau a Bennir gan Ganolfan ar gyfer asesiadau yn dechrau o ddifrif. Wrth i ni ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn egwyl hanner tymor, ac fel blaenoriaeth, rydyn ni'n gofyn i'n cydweithwyr coleg gymryd peth amser i fyfyrio ar eu profiadau fel staff addysgu a chofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg a chwblhau Arolwg Cenedlaethol Gweithlu Addysg Cymru.

Mae'r arolwg yn gofyn am fyfyrdodau ar brofiadau cyn Covid19 a hefyd yn ystod yr aflonyddwch presennol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am faterion sy'n effeithio ar lwyth gwaith a lles a'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer dysgu proffesiynol.

Mae'r arolwg yn hawdd ei gwblhau a bydd yn parhau ar agor tan 26 Chwefror 2021. Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol gan Gyngor y Gweithlu Addysg fel rhan o'r prosiect rhwng colegau, yr Undebau Llafur a Llywodraeth Cymru, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i gefnogi colegau i ddarparu'r profiadau dysgu gorau posibl i'n dysgwyr.

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein cydweithwyr coleg wrth i ni weithio gyda'n gilydd yn ystod y cyfnod rhyfeddol hwn ac edrychwn ymlaen at y diwrnod y gallwn ddychwelyd yn llawn i ddarpariaeth wyneb yn wyneb gyda'n dysgwyr.

Cwblhewch yr Arolwg

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.