Cynllun newydd Cymraeg+ Gwaith i gynyddu hyder staff addysg bellach yn y gweithle

education.jpeg

Mae ColegauCymru yn falch o lansio cynllun newydd Cymraeg Gwaith+ sydd wedi’i deilwra ar gyfer staff mewn colegau addysg bellach sy’n awyddus i ddatblygu mwy o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Pwrpas y sesiynau hyn yw newid arferion ieithyddol a chodi hyder siaradwyr, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg pan fyddent fel arfer yn defnyddio’r Saesneg. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer staff sy’n dysgu Cymraeg ar lefelau Canolradd ac Uwch.

Yn y lle cyntaf, rhoddir blaenoriaeth i staff darlithio a staff sy'n cael dylanwad ar addysg dysgwyr. Rydym yn trefnu dau gwrs Cymraeg Gwaith+ eleni a fydd yr un yn cynnig 35 awr o ddarpariaeth dros gyfnod o 10 wythnos. Cwrs ‘Codi Hyder’ y Ganolfan fydd sylfaen y cynllun.

Disgwylir i’r cwrs cyntaf ddechrau yn nhymor yr Hydref, a bydd yr ail, ar gyfer grŵp gwahanol o ddysgwyr, yn dechrau yn nhymor y Gwanwyn.

Meddai Nia Brodrick, Cydlynydd Prosiect ColegauCymru Cymraeg Gwaith,

“Rydym yn falch ein bod wedi gallu ymateb i’r alwad gan y sector addysg bellach am y ddarpariaeth ychwanegol yma. Mae’n galonogol gweld cymaint o ddysgwyr eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun y gwaith maen nhw’n ei wneud.”

Gwybodaeth Bellach

Gwybodaeth Bellach Cymraeg Gwaith+

Datganiad o Ddiddordeb

Cysylltwch â Nia Brodrick, Cydlynydd Prosiect Cymraeg Gwaith am ragor o wybodaeth.
Nia.Brodrick@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.