Cynllun newydd Cymraeg Gwaith+ ar agor i geisiadau Ionawr 2023

Classroom.jpg

Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith wedi bod ar waith yn y sector addysg bellach ers 2017 erbyn hyn. Gyda 11 coleg ar y cynllun, mae’r prosiect yn ariannu tiwtoriaid Cymraeg i ddysgu iaith at ddefnydd y gweithle i dros 400 o staff y sector addysg bellach yn flynyddol.

Wrth drafod gyda’r sector, daeth hi’n amlwg fod diffyg hyder yn cael effaith ar ddefnydd staff o’u sgiliau Cymraeg newydd. Er mwyn gallu rhoi cynnig arall i ddysgwyr, datblygwyd y cwrs Cymraeg Gwaith+ eleni sy’n cynnig 35 awr o ddarpariaeth dros gyfnod o 10 wythnos. Mae’r cynllun, fel y cynllun Cymraeg Gwaith wedi ariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r cynllun eisoes ar waith tymor yma, gyda’r cwrs 10 wythnos bellach yn y bumed wythnos. Mae staff o dri choleg yn buddio o’r cynllun ar hyn o bryd, Coleg y Cymoedd, Coleg Cambria a Choleg Sir Gâr. Prif ffocws y sesiynau yw cwrs ‘Codi Hyder’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o dan arweiniad tiwtor o Brifysgol Bangor. Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith+ wedi teilwra ar gyfer staff mewn colegau addysg bellach sy’n awyddus i ddatblygu mwy o hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg at ddefnydd y gweithle.

Fel rhan o’r cynllun, bydd pob dysgwr yn cwblhau’r cwrs Codi Hyder 20 awr, yn cael mynediad at 10 awr o sesiynau sy’n berthnasol i’r sector ynghyd ag oriau 1:1 gyda’r tiwtor.

Erbyn hyn, rydyn ni’n derbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun Cymraeg Gwaith+ sy’n dechrau mis Ionawr 2023. Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer staff sy’n dysgu Cymraeg ar lefelau Canolradd ac Uwch, mae hefyd yn berthnasol i rheiny sydd wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ond yn ddihyder. Bydd y cwrs yn cymryd lle rhwng yr 16eg o Ionawr - 31ain o Fawrth 2023 bob prynhawn dydd Mercher. Byddwn yn croesawi hyd at 12 aelod o staff ar y cwrs a bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar-lein, felly nid oes angen teithio ar gyfer y sesiynau.

Os hoffech chi dderbyn pecyn gwybodaeth am y cynllun, neu os oes cwestiwn gyda chi, cysylltwch gyda rheolwr y prosiect, Nia Brodrick ar Nia.Brodrick@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.