Cyhoeddi Cadeiryddion Newydd Pwyllgorau’r Senedd

Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

Cyhoeddwyd cadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd sydd newydd ei ffurfio. 
  
Wrth i’r Senedd gychwyn o ddifrif, mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gyda’r holl bwyllgorau i sicrhau craffu cadarn ar Lywodraeth Cymru, deddfu effeithiol, a defnydd effeithlon o amser yr Aelodau, er budd dysgwyr addysg bellach yng Nghymru. Rydym yn croesawu pob aelod i'w rôl bwysig sydd wrth wraidd ein democratiaeth, ac yn benodol y cadeiryddion hynny y mae eu pwyllgorau yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi uniongyrchol yr elusen.
 
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 
Cadeirir Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan AS Llafur, Jayne Bryant. 
  
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
Bydd Russell George, AS Ceidwadwyr Cymru, yn cadeirio'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 
  
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig 
Bydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cael ei gadeirio gan AS Ceidwadwyr Cymru, Paul Davies. 
   
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn chwilio am gyfle cynnar i drafod blaenoriaethau pob Pwyllgor gyda’r Cadeirydd a’r staff ymchwil. Mae cyfraniad y Cynulliad ac yn fwy diweddar Pwyllgorau'r Senedd wedi cryfhau'r broses ddeddfwriaethol, wedi sicrhau bod y llais democrataidd yn cael ei adlewyrchu mewn dadleuon ac ymholiadau a bod y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Gwybodaeth Bellach 

Newyddion Senedd Cymru 
Dwyn Llywodraeth Cymru i Gyfrif: Cadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd wedi'u hethol 
29 Mehefin 2021

Llun gan Julian Nyča / CC BY-SA

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.