Bwrdd strageol Addysg Bellach a Dysgu yn y Gweithle newydd ar gyfer Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ar ddechrau’r wythnos (5 Tachwedd), daeth aelodau cyswllt ColegauCymru, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, â chynrychiolwyr o sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau ynghyd â chyflogwyr at ei gilydd i sefydli ei Bwrdd Strategol Ôl-16.

Bwriad y bwrdd strategol newydd yw i i yrru’r agenda addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ei blaen.

Y rheini ar y Bwrdd yw pob Coleg Addysg Bellach; ddarparwyr prentisiaethau; NTFW; ColegauCymru; y Partneriaethau Dysgu a Sgiliau a chynrychiolwyr dysgwyr.

Enghraifft o’r gwaith sydd angen ei wneud yw’r bwrdd strategol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Atgoffodd Cyn-Gomisiynydd y Gymraeg a nawr cadeirydd Bwrdd Strategol Ôl-16, Meri Huws bod sgiliau yn allweddol i gyflawni'r nod wrth ddweud

“Mae datblygu gweithlu sydd yn gallu gweithredu’n ddwyieithog yn hanfodol. Mae sefydlu’r Bwrdd Strategol hwn yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddathlu ein bod yn dechrau ar y daith gyffrous honno. Yn wir, nid sbrint fydd cychwyn ar y gwaith hwn ond marathon, ond mae’n farathon rydym i gyd oll yn barod i’w rhedeg”

Yn ôl Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,

“Bydd profiad ac arbenigedd aelodau o’r Bwrdd ôl-16 yn gwbl allweddol i gefnogi’r Coleg wrth i ni weithio gyda phartneriaid i weithredu’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Mae’n gynllun uchelgeisiol a blaengar ac yn gosod gweledigaeth glir er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol dros y bum mlynedd nesaf."

Ar ôl mynychu’r cyfarfod cyntaf, dywedodd Iestyn Davies, ColegauCymru

“Gydag adnoddau a chefnogaeth briodol mae cyfle i golegau addysg bellach wneud cyfraniad sylweddol i nod y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.