Gwefan newydd i gefnogi trosglwyddo dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol o'r ysgol i addysg bellach

aln pathfinder choices welsh.png

Mae ColegauCymru yn falch o lansio gwefan newydd werthfawr, wedi'i chreu i helpu pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i drosglwyddo'n llwyddiannus o'r ysgol i addysg bellach.

Adnodd cydweithredol yw Braenaru ADY, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy'r Rhaglen Grant Rhanbarthol Trawsnewid ADY. Gyda'i gilydd ac mewn partneriaeth â holl golegau addysg bellach Cymru, mae'r adnodd yn cefnogi dysgwyr ADY a'u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles,

“Mae'n bwysig bod gan bobl ifanc, eu teuluoedd a staff fynediad at wybodaeth glir wrth i'n deddfwriaeth ADY newydd gael ei gweithredu o fis Medi. Rwy'n falch y bydd Braenaru ADY yn helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am addysg bellach, gan eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf ar gyfer dyfodol llwyddiannus."

Ychwanegodd Arweinydd Trawsnewid Addysg Bellach ColegauCymru Chris Denham,

“Rydym yn falch iawn o lansio adnodd cynhwysfawr a fydd yn cefnogi pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. Rydym yn ddiolchgar i'n partneriaid i allu darparu teclyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc ag ADY wrth iddynt drosglwyddo o un lleoliad dysgu i'r nesaf."

Buddion i bobl ifanc
Mae'r Braenaru ADY yn helpu pobl ifanc i ddysgu'n anffurfiol am fywyd coleg, y gefnogaeth sydd ar gael iddynt a sut mae colegau'n gweithio'n benodol ar gyfer eu hanghenion.

Buddion i rieni a gofalwyr
Bydd rhieni a gofalwyr yn dawel eu meddwl o weld enghreifftiau bywyd go iawn o ddysgwyr a'u teuluoedd yn siarad am eu profiadau o symud o'r ysgol i addysg bellach.

Buddion i weithwyr proffesiynol
Yn offeryn gwerthfawr i staff colegau a gweithwyr proffesiynol eraill, bydd Braenaru ADY yn fuan yn darparu cefnogaeth ac arweiniad wrth baratoi i weithredu’r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae hwn yn adnodd hynod ddefnyddiol a mawr ei angen i gefnogi dysgwyr ADY a'u teuluoedd wrth iddynt ystyried eu hopsiynau a phontio i addysg bellach. Bydd Braenaru ADY hefyd yn offeryn buddiol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn lleoliad ADY wrth iddynt barhau i baratoi i gyflawni eu dyletswyddau wrth weithredu'r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)."

Braenaru ADY

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.