Ar Wythnos Ymwybyddiaeth Straen Rhyngwladol, mae staff ColegauCymru wedi bod yn trafod y ffyrdd maen nhw’n delio â straen.

Dyma drafodaeth fer yn y cyd-destun o straen ac iechyd meddwl, ond mae'n amserol gan ein bod yn dathlu llwyddiannau ein prosiect Iechyd Meddwl, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd. 

Ar ddechrau 2019, gwahoddwyd y Colegau yng Nghymru i wneud ceisiadau ar gyfer arian prosiect i ddatblygu adnoddau ychwanegol ar gyfer y sector yn y maes Iechyd Meddwl. Gyda 13 sefydliad yn rhan o'r prosiect mae'r allbynnau yn amrywiol, deniadol a digidol. Prif ffocws y prosiect oedd datblygu hydwythedd dysgwyr a hyfforddiant i staff. 

Os oes diddordeb gyda chi yn y prosiectau iechyd meddwl mewn Addysg Bellach, dewch i'n digwyddiad diwedd prosiect ar y 26ain o Dachwedd. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y prosiectau, gwell yr allbynnau, gwneud cysylltiadau gydag eraill yn y sector a thrafod y ffordd ymlaen. Er mwyn archebu lle cysylltwch gyda Nia Brodrick, Cydlynydd y Prosiect ar nia.brodrick@colegaucymru.ac.uk.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.