Lansiad partneriaeth rhwng ColegauCymru a Grŵp Arweinyddiaeth Addysg Bellach Du

Working together.jpg

Mae ColegauCymru, ar ran ein haelodau, wedi ymrwymo i helpu i symud ymlaen agenda gwrth-hiliol Cymru ac rydym yn falch iawn o sefydlu partneriaeth swyddogol gyda'r Grŵp Arweinyddiaeth Addysg Bellach Ddu (BFELG).

Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru sy'n wrth-hiliol, ac un lle mae gan bob dysgwr yr hawl i addysg o'r radd flaenaf, wedi'i darparu mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol, o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Rydym yn awyddus i ddod â'r agenda gwrth-hiliol i flaen y sector addysg bellach yng Nghymru, gan weithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru sy'n wrth-hiliol ac i gyflawni'r gweithredoedd a nodir yng Nghynllun 10 Pwynt BFELG.” 

Digwyddiad

Yn ymuno â ni ar gyfer lansiad ar-lein y bartneriaeth hon ar 1 Rhagfyr 2021 bydd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS. Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at ein gwaith parhaus ColegauCymru a chyd-flaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Bydd cynrychiolwyr BFELG hefyd yn siarad am y nodau 10 mlynedd ar gyfer addysg bellach yng Nghymru, gyda ffocws ar herio hiliaeth, cynyddu cyrhaeddiad sgiliau a chanlyniadau hyfforddi ymhlith dysgwyr BAME, tra hefyd yn cynyddu rolau arweinyddiaeth a llywodraethu ethnig amrywiol mewn addysg bellach.

Bydd trafodaeth banel byr yn caniatáu cwestiynau gan gynrychiolwyr.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021 
Amser: 9.30yb - 10.30yb 
Lleoliad: Ar-lein  

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn sefydlu’r bartneriaeth bwysig hon gyda BFELG. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd, dysgu gyda'n gilydd, a gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at Gymru wrth-hiliol.” 

Ychwanegodd Robin Landman, o Dîm Gweithredol BFELG ymhellach,

“Mae'n wych gweld sut mae'r bartneriaeth rhwng BFELG a ColegauCymru wedi dod at ei gilydd mor gyflym, gyda lefelau gwirioneddol o ymrwymiad ar y ddwy ochr. Mae Cymru yn dangos arweinyddiaeth go iawn ym maes gwrth-hiliaeth ac mae gennym gyfle i gael effaith ystyrlon, gan adeiladu ar ffocws cryf Llywodraeth Cymru ar greu Cymru wrth-hiliol.”

Gwybodaeth Bellach

Bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan. Cysylltwch lucy.hopkins@colegaucymru.ac.uk i sicrhau eich bod yn derbyn gwahoddiad i'r digwyddiad hwn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

FE News 
The Black FE Leadership Group – looking to the future #AntiRacismInAction
1 October 2021

Gallwch hefyd ddilyn Black FE Leadership Group ar Twitter 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.