Angen am gydraddoldeb cyflog rhwng ysgolion a'r sector addysg bellach

Screenshot 2020-10-15 at 11.32.22 am.png

Yn dilyn ymgynghori dros fisoedd yr haf, mae datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd codiad cyflog i wobrwyo ein hathrawon medrus a gweithgar iawn. Mae'r Gweinidog yn nodi bod trafodaethau rhwng colegau addysg bellach ac undebau yn parhau. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae trafodaethau manwl a chydweithredol gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn parhau.” 

Ychwanegodd Mr Davies,

“Oherwydd pwysau ariannol hanesyddol a chysylltiedig â Covid, nid yw ein colegau wedi cynnwys codiadau cyflog yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Felly, dim ond os caiff ei ariannu'n llawn y gellir sicrhau setliad. Bydd cydraddoldeb yn flaenoriaeth yn y trafodaethau.” 

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hir-sefydlog i dalu cyflog cyfartal, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddiad pellach a fydd yn cael ei wneud yn y man. Mae ColegauCymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer setliad addysg bellach. Ymhellach, rydym am gynnull cyfarfod gyda chynrychiolwyr undebau llafur i symud y mater hwn ymlaen cyn gynted â phosibl. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r ddeialog i ddod o hyd i ateb cytûn. 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Cabinet 
Datganiad Ysgrifenedig: Dyfarniad Cyflog Athrawon 2020 
14 Hydref 2020 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.