Blaenoriaethau am Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith y Senedd

Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

Blaenoriaethau Strategol

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith y Senedd
Dyddiad Cyflwyno: 10 Medi 2021

Mae ColegauCymru yn galw ar y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad cynnar i sgiliau gwyrdd a’r economi. Dylai hyn ystyried diwydiannau gwyrdd yn ogystal â'r sgiliau sydd eu hangen i wneud swyddi a diwydiannau presennol yn wyrddach, a mater ysgogiad galw gan gyflogwyr. Yn dilyn gwaith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, dylai'r ymchwiliad hefyd archwilio sut i arallgyfeirio'r gweithlu gwyrdd.

Dros y tymor hir, gallai'r Pwyllgor ymchwilio i sut i annog mwy o blant a phobl ifanc i feddwl am yrfaoedd mewn diwydiannau amgylcheddol a gwyrdd a gwneud yr ardaloedd hyn yn opsiynau mwy apelgar.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Bowen@ColegauCymru.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol

Dyddiad: 27 Medi 2021 
Amser: 2.00pm - 4.00pm 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.