Hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg

welcome wales.jpg

Ymateb Ymgynghoriad

Cymwysterau Cymru

Dyddiad Cyflwyno: 13 Chwefror 2023

Mae colegau'n cytuno ei bod yn hanfodol i gyrff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn galluogi Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) i ddeall yn llawn eu cynnig o ran cymwysterau Cymraeg, a bydd yn rhoi eglurder i SABau wrth wneud penderfyniadau cwricwlwm. Byddai polisi yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ar y cychwyn wrth ddatblygu cymwysterau newydd. Bydd cynyddu ymwybyddiaeth o gymwysterau cyfrwng Cymraeg yn ysbrydoli mwy o ddysgwyr i’w dewis, eu hastudio a pharhau â’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg i brentisiaethau, AB, AU a chyflogaeth.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.