Adlewyrchu ar flwyddyn gynhyrchiol yn y sector addysg bellach: Polisi a Materion Cyhoeddus

Taking notes and working on laptop.jpg

Awst 2021 – Gorffennaf 2022

Eleni, mae’r sector addysg bellach wedi dod at ei gilydd i addasu, cydweithio, ac arloesi o ganlyniad i’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 wrth gynnal cymaint â phosibl o’r cynnig arferol i ddysgwyr, staff, cymunedau a busnesau. Yma rydym yn amlinellu rhywfaint o’r gwaith gwych y mae ColegauCymru wedi’i gyflawni a’i gefnogi yn ystod blwyddyn gyntaf y Senedd newydd.

Yn ogystal â threfnu a mynychu cyfarfodydd gydag Aelodau Senedd allweddol a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ymatebodd ColegauCymru i ymgynghoriadau niferus. Mae llawer o’n sylw wedi’i roi i Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), lle y rhoesom dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, gan geisio sicrhau bod y Bil yn gweithio’n dda ar gyfer y sector addysg bellach. Fe wnaethom hefyd ymateb i ymholiadau i drefniadau ariannu Ôl-UE, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr, Is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, Anghydraddoldebau iechyd meddwl a Chyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig.

Rydym wedi ymgysylltu â'r agenda cydraddoldeb, gan ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+. Er mwyn helpu i fonitro a llywio cynnydd yn y sector addysg bellach, mae ColegauCymru hefyd wedi ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd y grŵp yn gweithredu fel fforwm diogel i rannu straeon a phrofiadau ynghyd ag arfer gorau i sicrhau bod y sector addysg bellach yng Nghymru yn dod yn fwy cyfartal ac amrywiol. Mae hyn yn ychwanegol at ein partneriaeth barhaus a chyffrous gyda Black Leadership Group. Ymunodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, lansiad y bartneriaeth, ac rydym eisoes wedi gwneud gwaith ar y cyd ar ran Llywodraeth Cymru i helpu i ddeall y darlun presennol ar draws y sector addysg bellach a chamau penodol y gallwn eu cymryd i helpu i gyflawni’r uchelgais o fod yn Gymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Mae John Griffiths AS yn parhau i gadeirio ein Grŵp Trawsbleidiol ar addysg bellach a Sgiliau’r Dyfodol, lle cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf ar fater gwrth-hiliaeth.

Mae ColegauCymru hefyd wedi bod yn ymwneud â gwaith yn ymwneud ag urddas mislif lle rydym yn aelod o Fwrdd Crwn Urddas Mislif, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS. Rydym wedi tynnu sylw at rai enghreifftiau nodedig o arfer da ar draws y sector lle mae sawl coleg wedi creu eu prosiectau eu hunain i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif, yn seiliedig ar ymgynghori â dysgwyr gan gynnwys y rheini yn Grŵp Llandrillo Menai, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Penybont a Coleg Cambria.

Rydym hefyd wedi bod yn weithgar yn hyrwyddo pwysigrwydd iechyd meddwl. Wrth ymuno â Prifysgolion Cymru, UCM Cymru ac AMOSSHE, y Sefydliad Gwasanaethau Myfyrwyr, rydym wedi datblygu cynigion polisi i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru gydag argymhellion mewn meysydd gan gynnwys profiad cyfartal, rhannu gwybodaeth, eglurhad o rolau a chyfrifoldebau, a chyllid.

Yn olaf, mae ColegauCymru yn ddiolchgar i Aelodau’r Senedd hynny sydd wedi manteisio ar y cyfle i ymgysylltu â’r sector addysg bellach dros y flwyddyn ddiwethaf, boed hynny drwy ymweld â’u coleg lleol, gofyn cwestiynau llafar neu ysgrifenedig, codi materion mewn dadleuon neu drwy ddatganiadau 90 eiliad.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â'n Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus am ragor o wybodaeth.

Amy Evans, Swyddog Polisi
Amy.Evans@colegaucymru.ac.uk 

Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Jamie.Adair@colegaucymru.ac.uk

Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Bowen@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.