Cais am Ddyfynbris: Gwerthuso prosiectau peilot Addysg Hyblyg i Oedolion

Yn 2019, roedd ColegauCymru’n llwyddiannus wrth gael grant gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i dri choleg addysg bellach i dreialu dulliau newydd o ddarparu Addysg Hyblyg i Oedolion. 

Roedd y prosiectau’n ceisio canfod a dod o hyd i ddatrysiadau i rwystrau a’r ffactorau hynny sy’n atal oedolion rhag dysgu, fel ymrwymiadau gwaith, trafnidiaeth, gofal plant a chyfrifoldebau gofal eraill. 


Mae ColegauCymru yn gwahodd cynigion gan sefydliadau i gynnal gwerthusiad o’r tri phrosiect peilot. Y nod fydd canfod y gwersi a ddysgwyd gan y colegau wrth ddarparu addysg hyblyg i oedolion, y tu allan i fformat presennol y rhaglenni dysgu.

Dylid anfon y cynigion drwy e-bost at sian.holleran@colegaucymru.ac.uk erbyn 5:00pm, ddydd Gwener 30 Hydref 2020. Mae tîm y prosiect yn croesawu ymholiadau am y dyfynbris hwn hyd at ddydd Llun 26 Hydref 2020. Ni fydd gohebiaeth nac ymholiadau’n cael sylw yn ystod y cyfnod pan wneir penderfyniad am y contract. 
 

Dewch o hyd i: Cais am Ddyfynbris

Dyddiad cau

5:00pm, ddydd Gwener 30 Hydref 2020

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.