Is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Classroom.jpg

Ymateb Ymgynghori

Llywodraeth Cymru
Dyddiad Cyflwyno: 17 Mai 2022

Mae ColegauCymru yn galw am ddysgwyr sy’n derbyn addysg mewn mwy nag un lleoliad neu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) gael eu hystyried. Er enghraifft, cynlluniau Prentisiaethau Iau lle mae pobl ifanc 14 - 16 oed yn treulio amser mewn sefydliadau addysg bellach.

Mae ColegauCymru yn cytuno y bydd y cynigion newydd yn helpu i sicrhau bod dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad yn cael y cwricwlwm priodol a llawn drwy ganiatáu i bob parti gymryd rhan yn y prosesau cynllunio ac adolygu.

Fodd bynnag, erys cwestiynau mewn perthynas â beth mae hyn yn ei olygu mewn lleoliad coleg, a sut y byddai'n effeithio ar gymwysterau galwedigaethol.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Bowen@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.