Llwyddiant i ddysgwyr addysg bellach wrth iddynt dderbyn canlyniadau cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol

48543957881_24393aa287_c.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o longyfarch dysgwyr o bob rhan o Gymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau heddiw yn dilyn ail flwyddyn academaidd heriol.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Rydym yn anfon ein llongyfarchiadau twymgalon at bob dysgwr wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau yn dilyn yr hyn sydd wedi bod yn 18 mis anodd. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant i'n cydweithwyr addysg, a rhieni a gofalwyr fel ei gilydd sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio'r cyfnod hwn. Mae ein cydweithwyr bellach yn gweithio'n galed i gefnogi dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen yn eu taith ddysgu."

Yn dilyn y penderfyniad i ganslo arholiadau am ail flwyddyn, mae colegau addysg bellach wedi parhau i weithio'n ddiflino i ddilyn canllawiau a osodwyd gan sefydliadau dyfarnu a rheoleiddwyr yn y broses ddyfarnu. Gyda nifer o elfennau cymhleth, ar lefel sefydliad a sefydliad dyfarnu, mae ColegauCymru yn ddiolchgar am arbenigedd ac ymrwymiad ein holl gydweithwyr addysg wrth sicrhau bod cymwysterau'n cael eu dyfarnu'n gywir, yn deg ac yn gadarn.

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies,

“Rydym yn llongyfarch dysgwyr, staff a rhieni yn frwd yn eu cyflawniadau ar y cyd heddiw ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol. Mae dysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i golegau addysg bellach ac mae gwasanaethau cyngor ac arweiniad wrth law i'w cynorthwyo i gymryd y cam nesaf."

“Mae dysgwyr eleni wedi wynebu cyfnod hynod heriol a dylem ddathlu eu gwytnwch wrth sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i barhau â'u taith ddysgu neu symud i gyflogaeth.”

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Gweinidog yn dathlu ‘cyflawniad nodedig’ dosbarth 2021
10 Awst 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.