Croesewir cymorth ychwanegol i ddysgwyr iechyd a gofal cymdeithasol

studentwriting.jpeg

Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £1.8 miliwn i gefnogi myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan bwysig a sylweddol o ddarpariaeth addysg bellach yng Nghymru ac yn rhan hanfodol o’n cymunedau.   

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae’r pandemig wedi dod â mwy o ffocws nag erioed ar bwysigrwydd iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael eu hannog i mewn i’r sector, i gwblhau eu hastudiaethau ac i symud ymlaen i yrfaoedd ystyrlon, medrus.” 

Wrth inni ddod allan o’r pandemig a chyda disgwyl i’r galw am swyddi yn y maes hwn dyfu, rydym wedi ein calonogi gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau ffyniant hirdymor y sector. 

Ychwanegodd Mr Davies ymhellach,

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu ennill cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol gwerthfawr. Bydd hyn yn caniatáu iddynt symud ymlaen mewn gyrfaoedd ystyrlon mewn sector hollbwysig sy'n cyfrannu'n helaeth at ein heconomi a'n cymdeithas. 

"Er bod y cyllid i’w groesawu, mae ColegauCymru a’r sector addysg bellach yn dal i bryderu am ffactorau eraill, gan gynnwys y problemau parhaus gyda chymwysterau galwedigaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig inni gydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i ddysgwyr a dinasyddion ledled Cymru.” 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Cymorth i fyfyrwyr wrth gwblhau cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘hanfodol’ 
22 Ionawr 2022 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.