Effaith Covid19 i'w gweld yn glir mewn niferoedd prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod y pandemig

Apprentices working on a car.png

Cyhoeddwyd ffigyrau Llywodraeth Cymru ar niferoedd prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig Coronafeirws yn gynharach ym mis Medi. Mae'r ffigyrau'n rhai sy’n anghyfforddus i'w darllen, ond eto, nid yn annisgwyl. Rhestrwyd 4,930 o brentisiaid fel dal ar ffyrlo ar 28 Awst 2020 gyda therfyn ar brentisiaethau 50 unigolyn yn sgil diswyddiad. Er gwaethaf hyn, roedd nifer y prentisiaid ar ffyrlo wedi gostwng 2,835 (37%) o uchafswm o 7,770 ar 29 Mai 2020 gyda 195 wedi eu diswyddo ond yn parhau i ddysgu tra bod eu darparwr wedi ceisio dod o hyd i gyflogaeth arall.* 

Dysgwyr yr effeithir arnynt fwyaf 

Nodwyd y prentisiaid yr effeithir arnynt fwyaf fel bod yn ifanc, yn wrywaidd, yn wyn neu o hil gymysg, gyda’r sectorau hamdden, chwaraeon a theithio, gwallt a harddwch, a lletygarwch yn dioddef fwyaf. Effeithiwyd hefyd ar y rhai a gyflogir yn y sector preifat mewn cwmnïau â llai na 50 o weithwyr, yn fwy nag eraill. Mae prentisiaethau lefel is wedi eu heffeithio'n fwy na phrentisiaethau uwch gyda'r rhai hynny sydd wedi hunan-nodi bod ganddynt 'brif anabledd a/neu anhawster dysgu' hefyd wedi’u heffeithio’n fwy na'u cyfoedion. 

Mae’r ffigyrau hyd at fis Mawrth 2020 hefyd yn dangos bod nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEETs) wedi cynyddu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf**, ffigwr sy'n debygol o waethygu ymhellach fel canlyniad uniongyrchol i bandemig Covid19. 

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru Barry Walters,

“Nid yw’r ystadegau'n argoeli'n dda ar gyfer adferiad economaidd ôl-Covid. Fodd bynnag, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa gref i allu darparu atebion arloesol ac ymarferol mewn cyd-destun y sector dysgu seiliedig ar waith. Mae angen i ymateb y llywodraeth fod yn un hyblyg ac addasadwy, gan gydnabod bod Covid19 wedi dod â heriau newydd yn ei sgil lle nad yw'r hen ffyrdd o weithio bellach bob amser yn briodol.” 

Rydyn ni nawr ar bwynt tyngedfennol lle mae effeithiau’r argyfwng yn cael eu teimlo ymhell ac yn agos, nid yn unig gan unigolion ond gan eu cymunedau a'r economi ehangach. Bydd pwysigrwydd prentisiaethau a dysgu yn y gweithle i gynorthwyo adferiad economaidd Covid yn hanfodol. Bydd buddsoddiad parhaus a hyblyg hefyd yn bwysig. Ar lefel ymarferol, mae ein haelodau yn parhau i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gan ddysgwyr prentisiaethau a chyflogaeth addas gyda'r gallu i barhau â'u hastudiaethau lle bynnag y bo modd. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd gyda chydweithwyr yn y llywodraeth, cyflogwyr a phartneriaid eraill er mwyn darparu cefnogaeth ddigonol, nawr ac wrth i ni barhau i mewn i'r hyn sy'n debygol o fod yn 12 mis heriol ac ansicr.” 

Gwybodaeth Bellach

 

Stadegau Llywodraeth Cymru 
*  Prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19): hyd at 28 Awst 2020 
8 Medi 2020  

Stadegau Llywodraeth Cymru   
**  Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2019 i Mawrth 2020
30 Gorffennaf 2020  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.