Diwedd symudedd cymdeithasol?

Ymchwil newydd gan Dr Mark Lang ar ran ColegauCymru yn archwilio a yw'r ddarpariaeth addysg gyfredol yn cefnogi dilyniant cymdeithasol a chydnerthedd i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig. Yn adroddiad “Allwch chi fynd o fan hyn i fanco?”, mae Dr Lang yn mynd i’r afael â’r materion trwy gyfres o ‘lensys’, gan gynnwys economaidd, cymdeithasol, cyflawni a gofodol.

Yn 2019, awgrymodd adolygiad Augar na fu ‘… unrhyw welliant mewn symudedd cymdeithasol ym Mhrydain dros hanner canrif’. Yn yr un modd, canfu Arolwg Deloitte, Milflwyddol Byd-eang 2019 fod dwy ran o dair o “milennials” yn credu, o ganlyniad i’w cefndiroedd, nad yw rhai pobl byth yn cael cyfle teg i sicrhau llwyddiant gwaeth pa mor galed y maent yn gweithio.

Yn draddodiadol mae addysg, yn enwedig Addysg Bellach, yn chwarae rhan enfawr mewn symudedd cymdeithasol ond mae'r darlun cyfredol yn gymhleth. Mae cyflawni llesiant, yn hytrach na chanolbwyntio ar gystadleuydd economaidd yn unig, yn ei gwneud yn ofynnol i bolisi a ddarpariaeth addysg ganolbwyntio mwy ar greu ‘ymagweddau dysgu’. Mae dilyniant cymdeithasol yn dibynnu ar chwaraewyr allweddol yn dod at ei gilydd i ystyried gweithrediad o dan bob un o'r gwahanol lensys.

Adroddiad llawn: Allwch chi fynd o fan hyn i fanco? Dr Mark Lang

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.