Gwerth Addysg Oedolion mewn tirwedd ôl-Covid

Untitled design (4).png

Wrth i ni ddathlu cyflawniadau dysgwyr sy’n oedolion o bob rhan o Gymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, mae’n bwysig edrych ar fuddion ehangach y sector a’i bwysigrwydd i economi Cymru. 

Ni fu cydnabod pwysigrwydd uwchsgilio ac ailsgilio dysgwyr sy'n oedolion a buddsoddi ynddynt er mwyn sicrhau adferiad economaidd erioed mor bwysig ag y mae nawr - yn y dirwedd ôl-Covid sy'n parhau i newid yn gyflym. Bydd angen gweithlu medrus digonol ar Gymru sy'n ystwyth a hyblyg er mwyn caniatáu iddi ffynnu. 

Addysg oedolion ar waith

Mae myfyriwr Awyrofod Coleg Caerdydd a’r Fro, Kierran James, yn enghraifft wir o fuddion addysg oedolion. Yn wyneb nifer o heriau yn ei fywyd fel oedolyn ifanc, fe ddewisodd ymgysylltu â chymhwyster Lefel 3 a roddodd ef ar y llwybr i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Cynnal a Chadw Awyrennau. Mae Kierran hefyd wedi mynd ymlaen i ennill gwobr Newid Bywyd a Dilyniant yng Ngwobrau Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith hefyd. Mae'n enghraifft wirioneddol o sut y gall dysgu gydol oes droi bywyd o gwmpas, yn broffesiynol ac yn bersonol, a sut y gall unigolion fynd ymlaen i wneud cyfraniad gwerthfawr i'w cymunedau, yn economaidd ac yn gymdeithasol. 

Hyrwyddo lles ac iechyd meddwl da

Gall ennill cymwysterau ar unrhyw oedran nid yn unig helpu i adeiladu gweithlu gyda'r sgiliau cywir sydd eu hangen ar gyfer y “ffordd newydd o fyw”, ond hefyd ysbrydoli pobl i ddal ati i ddysgu archwilio cyfeiriadau newydd a chadw eu meddyliau a'u cyrff yn iach hefyd. Gall myfyrwyr o bob oed ddysgu ystod eang o sgiliau newydd. Mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau i helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith, gan gynnwys ar gyfer y dysgwyr hynny nad ydyn nhw wedi bod yn rhan o'r system addysg ers cryn amser. Mae dosbarthiadau wedi'u teilwra i weddu i anghenion y dysgwr, felly beth bynnag yw'r profiad, bydd cwrs addas ar y lefel gywir ar gael. 

Ymrwymiad ColegauCymru 

Hoffai ColegauCymru weld Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar lwyddiant peilotiaid fel Cyfrifon Dysgu Personol (PLAs) ac Addysg Oedolion Hyblyg i sicrhau bod mynediad at fodelau dysgu ar-lein a chymysg ar gael i ddysgwyr sy'n oedolion. Rydym yn gefnogol i ymrwymiad y Gweinidog Addysg i hawl i ddysgu gydol oes ac mae'r sector yn awyddus i weld mwy o fanylion ar sut y gall yr hawl hon weithio'n ymarferol. 

Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu’r hawl i ddysgu gydol oes ac i ailstrwythuro dysgu oedolion yng Nghymru i helpu i wella gwytnwch cymunedol yn yr ymateb i bandemig Covid19. 

Gall dysgu trwy gydol oes gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad sgiliau, iechyd a lles, ac mae'n sbarduno ymgysylltiad cymdeithasol yn y rhai sydd bellaf i ffwrdd o addysg.

Gwybodaeth Bellach

Sefydliad Dysgu a Gwaith 
Llywodraeth Cymru: Wythnos Addysg Oedolion 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.