Meddyliwch yn hir, nid dim ond mawr!

Roedd ColegauCymru yn falch o gael ei wahodd i gyflwyno yn y Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau 2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Amlinellwyd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Dr Rachel Bowen ein hymchwil ddiweddar, a ariannwyd gan Ewrop, Creu Cymru Well – Gwersi o Ewrop.

Mae’r ymchwil yn archwilio'r berthynas rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd, a sut y gall Cymru wneud y gorau o'r wybodaeth a'r profiad a rennir gan ein partneriaid mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

Ategodd ein canfyddiadau gyflwyniadau cynharach gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, a pwysleisiodd yr economi sylfaenol a'r angen i Gymru roi cynnig ar ddulliau newydd, yn ogystal ag un yr Athro Phil Brown o Brifysgol Caerdydd a soniodd am gasgliadau adroddiad Cymru 4.0 ar arloesi digidol.

Y tri chanfyddiad allweddol o'r ymchwil a bwysleisiodd Rachel oedd:

  • Mae angen dull cytbwys o ymdrin â sgiliau’r dyfodol – dylid buddsoddi mewn sgiliau ar bob level, ac nid ar lefel uchaf yn unig.
  • Mae angen mwy o bwyslais ar ddeilliannau a sgiliau, yn hytrach nag allbynnau a chymwysterau.
  • Meddwl am y tymor hir!

Meddai Rachel,

“Roedd yn wych clywed faint o ganfyddiadau ein hadroddiad a oedd yn atseinio gyda'r gynulleidfa. Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gyda'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb i wneud cynnydd ar ein hargymhellion yn y cyfnod yn arwain at etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol yn 2021. Mae’n amlwg, er bod angen i Gymru barhau i feddwl yn fawr, mae angen i ni feddwl yn hir hefyd.”

Dolen i'r cyhoeddiad

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.