Amser i ddarparu ar gyfer dysgwyr gyda Rhaglen Lywodraethu newydd uchelgeisiol

Faceless students in college grounds.jpg

Heddiw mae'r Prif Weinidog wedi lansio Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol - cynllun i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb. Mae ColegauCymru yn croesawu'r ymrwymiad cyffredinol clir ar gyfer y sector addysg dros y 5 mlynedd nesaf, ond mae'n edrych ymlaen at fanylion pellach ar rai meysydd o ddarparu a chynllunio ar gyfer y sector ôl-16.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn croesawu cefnogaeth y Rhaglen newydd i ysgolion ac athrawon I gyflwyno Cwricwlwm i Gymru sy’n arwain y byd ac sydd yn naturiol angen bod yn flaenoriaeth allweddol i’r Gweinidog Addysg newydd, cyn i’r Cwricwlwm fynd yn fyw ym mis Medi 2022.” 

Gan nodi’r ymrwymiad i gyflwyno Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), ychwanegodd Mr Davies,

“Mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (PCET) yn hanfodol i wella bywydau a lles, ac mae'n hanfodol i ffyniant unigol a chenedlaethol felly mae'n bwysig bod deddfwriaeth newydd yn cael ei hystyried yn briodol yng ngolau'r newidiadau a ddaeth yn sgil Covid19.

Erbyn hyn mae'n hanfodol bod yr holl randdeiliaid PCET perthnasol yn gweithio gyda'i gilydd fel sector i sicrhau Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) llwyddiannus sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i gefnogi Llywodraeth Cymru i gael datrysiad ymarferol.

Mae gennym ni bum mlynedd i gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, yn hytrach nag edifarhau wrth hamddena.”

Anogir ColegauCymru gan y cyhoeddiad i gyflawni Gwarant i Bobl Ifanc, gan roi i bawb o dan 25 oed y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth, a chroesewir addewid pellach i adolygu addysg oedolion i gynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu yng Nghymru. Mae croeso pellach i ddisodli Rhaglen werthfawr Erasmus+ UE i gefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn Ewrop gyda rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd gwerth £65m.

Nodir ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â'r rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi, ynghyd â'u haddewid i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed, gyda'r bwriad o gefnogi economi lewyrchus. 

Ychwanegodd Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru,

“Mae'n galonogol clywed bod rhai o'r ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y cyhoeddiad heddiw yn adlewyrchu nifer o Ofynion Polisi ColegauCymru o'r Etholiadau Senedd ddiweddar. Mae'r addewid i sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl pandemig y coronafeirws, gan atgyweirio'r difrod a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â ffocws clir ar amcanion lles yn cael ei groesawu'n arbennig." 

Gorffennodd Mr Davies,

“Rydym yn parhau i weithio gyda'n haelodau gyda'r nod sylfaenol o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob dysgwr."


Gwybodaeth Bellach

Datganiad I’r Wasg Llywodraeth Cymru 
Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach i Bawb 
15 Mehefin 2021 

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru  
Rhaglen lywodraethu 2021 i 2026  
15 Mehefin 2021  

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru  
Rhaglen lywodraethu 2021 i 2026: Datganiad llesiant  
15 Mehefin 2021 
 
Maniffesto ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru 
Llwyddiant yn y Dyfodol: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru mewn Addysg Ôl-16 a Dysgu Gydol Oes i Gymru 
Mawrth 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.