Teyrnged i Gavin Thomas MBE

Roedd ColegauCymru yn drist o glywed am farwolaeth ddiweddar Gavin Thomas MBE. 

Dechreuodd Gavin ei yrfa yn dysgu mewn addysg bellach ac uwch, ac mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr. Am 20 mlynedd bu'n Arolygydd EM Estyn ac am 10 mlynedd yn Uwch Arolygydd addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Yn ddiweddarach bu Gavin yn gweithio fel ymgynghorydd rhan-amser mewn addysg a hyfforddiant gyda ColegauCymru a sefydliadau eraill. Derbyniodd MBE am wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn 2012. 

Cydymdeimlwn yn ddiffuant â theulu a ffrindiau Gavin ar yr adeg anodd hon ac rydym yn cydnabod y rhan sylweddol a chwaraeodd ym myd addysg yng Nghymru. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.