ColegauCymru yn cynrychioli’r sector addysg bellach yn Ymchwiliad Covid19 Llywodraeth y DU

roundtable.jpeg

Roedd ColegauCymru yn falch o gynrychioli’r sector addysg bellach ac ôl-16 yng Nghymru mewn cyfarfod Bord Gron Addysg Ôl-16 yn Ymchwiliad Covid-19 y DU ar 16 Mawrth 2022.

Amlygodd y cyfarfod cyngychwyn effaith andwyol y pandemig ar ddysgwyr a phwysigrwydd a gwerth amrywiaeth addysg. Nododd hefyd meysydd allweddol i’r ymchwiliad eu hystyried.

Roedd hwn yn gyfarfod cychwynnol defnyddiol lle daeth rhanddeiliaid allweddol addysg ynghyd i gytuno ar ffocws yr Ymchwiliad, a fydd yn cael ei gadeirio gan y Gwir Anrhydeddus Farwnes Heather Hallett DBE.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein haelodau i ddarparu gwybodaeth i’r Ymchwiliad hwn er mwyn sicrhau bod llais y sector addysg bellach yng Nghymru yn cael ei glywed. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o ddigwyddiadau’r gorffennol wrth gynllunio’n briodol ar gyfer senarios posibl yn y dyfodol. Fel bob amser, iechyd a diogelwch ein dysgwyr a’n staff yw ein blaenoriaeth o hyd.”

Bydd ColegauCymru yn ymgysylltu â’n haelodau i ddarparu ymateb a chyfraniad priodol i’r Ymchwiliad yn y misoedd nesaf.

Gwybodaeth Bellach

Gwefan Ymholiad Covid-19 y DU

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi’i sefydlu i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.