Colegau wrth Galon Adferiad Economaidd yng Nghymru: cyfres gynhadledd ar-lein lwyddiannus

pexels-luis-quintero-2774556.jpg

Bu ein cyfres cynhadledd ar-lein ddiweddar ar ddadansoddeg data'r farchnad lafur a sut y gall gefnogi addysg bellach yn llwyddiant go iawn. Mewn cydweithrediad ag Emsi gwelwyd dros 100 o fynychwyr ar gyfer pob sesiwn.

Edrychodd y weminar gyntaf ar gyflwr y genedl a darparu dadansoddiad o farchnad lafur Cymru. Edrychodd Andy Durnam, Emsi, ar effaith yr argyfwng ers mis Mawrth o ran ei effeithiau ar alw cyflogwyr, diweithdra, ac amlygiad i’r diwydiant tra canolbwyntiodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies ar yr heriau hyn o safbwynt y sector addysg bellach. Edrychodd y sesiwn hefyd ar risgiau a chyfleoedd mwy cyffredinol a ddaw yn sgil awtomeiddio.
 
Canolbwyntiodd ein hail ddigwyddiad ar golegau yn arwain yr adferiad yn ein cymunedau. Ymunodd penaethiaid Coleg Cambria, Coleg y Cymoedd a Choleg Sir Benfro ag Iestyn Davies i drafod goblygiadau'r mewnwelediadau a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf, a sut y gall colegau ledled Cymru arwain eu cymunedau lleol allan o'r argyfwng.
 
Edrychodd y trydydd digwyddiad ar sut y gall data’r farchnad lafur helpu i lywio'r strategaeth gwricwlwm. Ar ôl edrych ar y darlun cyffredinol o ran effeithiau'r argyfwng ar economi Cymru, a sut y gall colegau ddechrau ymateb fel arweinwyr yn eu hardal, aeth y sesiwn hon i mewn i'r manylion, gan edrych ar sut y gall data ar gyfer ardaloedd lleol helpu colegau deall anghenion sgiliau parhaus, a sut y gellir ymgorffori'r rhain wrth gynllunio'r cwricwlwm. Ymunodd James Scorey, Is-Bennaeth Cyllid a Chynllunio Coleg Caerdydd a'r Fro.
 
Unwaith eto, aeth ein digwyddiad olaf i mewn i'r manylion gan edrych ar sut i ddefnyddio data'r farchnad lafur i yrru mewnwelediadau gyrfaoedd. Yn ymuno â Hyfforddwr Gyrfa a Chyflogaeth Coleg Penybont Abigail Bassie, edrychodd y sesiwn ar sut y gellir defnyddio'r un math o ddata wedyn i hyrwyddo cyrsiau i bobl yn eich ardal leol, yn enwedig i'r rhai sydd wedi colli eu swyddi ac sy'n edrych i uwchsgilio i fod gallu dychwelyd i'r gwaith.
  
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych gwestiwn neu sylw, cysylltwch â Jon Davies.
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.