Hanfodol i sicrhau graddau teg i holl ddysgwyr

48543957881_24393aa287_c.jpg

Mae'r diweddariad heddiw ar gymwysterau 2021 gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn cydnabod yr heriau sylweddol sy'n wynebu dysgwyr sy'n derbyn eu canlyniadau cymwysterau yn haf 2021. 

Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog o waith darlithwyr, tiwtoriaid ac athrawon fel ei gilydd gan fod y sector addysg wedi ceisio dysgu o'r sefyllfa anodd a wynebir yn gyffredinol yn ystod haf 2020. Mae colegau wedi gweithio'n galed i gyrraedd graddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn deg i ddysgwyr. 

Mae cynrychiolaeth colegau addysg bellach ar y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni wedi galluogi'r sector i wneud mewnbwn ystyrlon a sicrhau bod y trefniadau amgen i arholiadau yn gweithio i golegau yn ogystal ag ysgolion. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyfle i wneud y cyfraniad hwn. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies,

“Mae datganiad heddiw yn gydnabyddiaeth gadarnhaol o waith caled ar draws y sector wrth inni ddechrau ail flwyddyn o ganlyniadau heb arholiadau yn y mwyafrif helaeth o achosion.” 

Ychwanegodd Mr Davies,

“Yn hanfodol, rhaid i ddysgwyr galwedigaethol beidio â phrofi’r un driniaeth wael â’r llynedd gyda chanlyniadau wedi’u gohirio ar y funud olaf. Mae angen i ddysgwyr galwedigaethol weld y gallant ddisgwyl cael eu trin â'r un parch â'u cymheiriaid academaidd.” 

Mae ColegauCymru hefyd yn croesawu’r gefnogaeth ariannol werthfawr a ddarperir i’r sector addysg bellach i sicrhau parhad dysgu ac yn ystod Pandemig Covid19, gan gynnwys yr £1.6m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i CBAC i sicrhau y bydd ffioedd CBAC i golegau ac ysgolion yn cael eu gostwng 50%. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad y Cabinet 
Datganiad Llafar: Cymwysterau yn 2021 
22 Mehefin 2021
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.