Croeso cynnes i'r Gweinidog Addysg Newydd

Jeremy Miles.png

Mae ColegauCymru yn falch o groesawu penodiad Jeremy Miles AS fel y Gweinidog Addysg newydd i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Mr Miles ar y materion sy'n wynebu Cymru, nid yn unig yr adferiad o Covid-19, ond hefyd feysydd fel yr angen i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn symud dysgwyr yn effeithiol i'r system addysg ôl-16.

Yn ei rôl flaenorol fel Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd, roedd Jeremy Miles yn gefnogol o'r angen i ddod o hyd i gynllun newydd i gymryd lle Rhaglen Erasmus+ i alluogi dysgwyr galwedigaethol i ymgymryd â lleoliadau gwaith dramor. Fe wnaeth gyfarfod ag amrywiaeth o ddysgwyr a phrentisiaid i glywed eu profiadau yn uniongyrchol, yn fwyaf diweddar yn siarad yng Ngrŵp Trawsbleidiol ar-lein ColegauCymru ar Addysg Bellach a Sgiliau'r Dyfodol.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Mae Jeremy Miles yn benodiad rhagorol fel Gweinidog Addysg. Nawr yw'r amser i gofleidio i gydnabod yn llawn y rôl arbennig y gall Addysg Bellach ei chwarae wrth gefnogi dinasyddion Cymru i gofleidio ac addasu i heriau'r dyfodol.”

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Mr Miles a sicrhau bod y rôl ganolog y mae'n rhaid i Addysg Bellach ei chwarae yn adferiad Covid19 yng Nghymru yn cael ei chydnabod."

“Mae'r sector Addysg Bellach yn awyddus i gwrdd â'r Gweinidog dros yr wythnosau nesaf i drafod y ffordd orau i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni ein nod cyffredin o Gymru hynod fedrus, yn gymdeithasol ac economaidd.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Nid yw Jeremy yn ddieithr i Addysg Bellach ac mae eisoes wedi dangos ei ymrwymiad i ddysgwyr ôl-16 fel cefnogwr cryf i symudiad rhyngwladol a Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd Llywodraeth Cymru. Fel eiriolwr balch dros ei goleg addysg bellach leol, edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn rhinwedd y swydd hon ac yn ei rôl newydd ledled Cymru gyfan.”

Mae ColegauCymru yn y broses o amserlennu cyfarfodydd diweddaru gydag aelodau newydd y cabinet a chydag aelodau sy'n dychwelyd o'r Senedd.

Gwybodaeth Bellach

Llwyddiant yn y Dyfodol: Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru

 

National Assembly for Wales from Wales - Jeremy Miles AM
CC BY 2.0

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.