ColegauCymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach

businessmeeting.jpeg

Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ymrwymo i helpu pobl i uwchsgilio, cael mynediad at waith teg a ffynnu. Mae’r Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn amlinellu creu Cymru lle gall pawb dderbyn addysg a swyddi o ansawdd uchel mewn economi werdd – gan ganiatáu i fusnesau ffynnu mewn ffordd sy’n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb.

Mae cyhoeddiad heddiw yn rhestru nifer o flaenoriaethau allweddol, yn arbennig y gallu i bobl ifanc wireddu eu potensial, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd a meithrin diwylliant dysgu am oes, ac mae’n adleisio’r galwadau yn ein Maniffesto ein hunain, Llwyddiant Pellach: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Mae ColegauCymru hefyd yn awyddus i ddatblygu agenda werdd y sector addysg bellach. Rydym yn rhannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn y dyfodol sy’n wyrddach, ac sy’n anelu at gefnogi colegau i gyrraedd sero net. Mae hwn yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir er bod angen mwy o fanylion dros y misoedd i ddod.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn croesawu’n fawr y cyhoeddiad heddiw. Mae’r sector addysg bellach yn cefnogi pobl o bob oed i gyrraedd eu potensial a ffynnu, ac yn gweithio’n galed i sicrhau chwarae teg i unigolion o bob cefndir.”

“Gall ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Warant Person Ifanc a dysgu gydol oes helpu i gefnogi pobl drwy gydol eu bywydau dysgu a gwaith. Yn yr un modd, rydym yn falch o weld ffocws ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl sy'n aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol."

"Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio gyda’n haelodau, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth i ni barhau i weithio tuag at adeiladu dyfodol mwy disglair i’n dysgwyr ôl-16.

Gwybodaeth Bellach

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru
Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau - crynodeb
8 Mawrth 2022

Maniffesto ColegauCymru
Llwyddiant Pellach: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru
Mawrth 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.