ColegauCymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn cyflogadwyedd a chymorth sgiliau cynhwysfawr

Ken Skates.png

Mae ColegauCymru yn falch o glywed am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn cyflogadwyedd a chymorth sgiliau cynhwysfawr yn sgil Pandemig Covid19. Mewn datganiad ddoe, cadarnhaodd Ken Skates AS y bwriad i gynyddu sgiliau a chyflogadwyedd, a fydd yn hanfodol ar gyfer adferiad economaidd Cymru yn dilyn Covid19.

Rydym yn croesawu’r sicrwydd y bydd pawb dros 16 oed yng Nghymru yn derbyn cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i waith, dilyn hunangyflogaeth neu ddod o hyd i le mewn addysg neu hyfforddiant.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru

“Rydym yn croesawu datganiad heddiw gan y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wrth inni geisio’r ffyrdd mwyaf effeithiol i gefnogi pobl ifanc, drwy’r argyfwng uniongyrchol hwn a thu hwnt. Efallai mai un o'r ffyrdd i warantu cefnogaeth yn y dyfodol yw ailedrych ar oedran addysg orfodol yng Nghymru ac ystyried a oes buddion o adolygu'r ffyrdd yr ydym yn sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu wirfoddoli y tu hwnt i'r oedran presennol o 16 oed.

Mae gan ddysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau rolau hynod bwysig i'w chwarae wrth adael y pandemig: cefnogi cyflogwyr, dysgwyr a'r economi newidiol y gwyddom y byddwn yn ei hwynebu. Bydd angen i nifer sylweddol o oedolion ailhyfforddi ac uwchsgilio ac mae'r sector Addysg Bellach yn awyddus i adeiladu ar y cefnogaeth hyblyg rydyn ni wedi bod yn eu treialu i chwarae ein rhan. Mae angen i fodelau cyllido ystyried yr heriau newydd hyn ac addasu yn unol â hynny.

Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac un i'w groesawu ac mae'n bwysig bod hwn yn fuddsoddiad gwirioneddol a real o arian newydd mewn rhaglenni cyflogadwyedd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion pellach."

Gwybodaeth bellach
Darllenwch ddatganiad Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd: Gwella sgiliau a gwneud pobl yn fwy cyflogadwy yn hanfodol i economi Cymru

Llun gan National Assembly for Wales from Wales - Ken Skates AMCC BY 2.0

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.