Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r her o ymgorffori darpariaeth iechyd meddwl ar draws pob ysgol a choleg

pexels-martin-péchy-594610-1.jpg

Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r her o ymgorffori darpariaeth iechyd meddwl ar draws pob ysgol a choleg 

Wrth i’r cyfle i ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Sefydlu dull ysgol-gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddwl, mae ColegauCymru’n annog y llywodraeth i ymateb i’r her o sicrhau bod darpariaeth iechyd meddwl wedi’i hymgorffori’n gadarn ar draws pob ysgol a choleg. 

Er y nodir bod y canllawiau wedi'u cynllunio ar gyfer ysgolion, rydym yn annog rhoi mwy o ystyriaeth i'r materion yn y sector addysg bellach. Mae hanner holl broblemau iechyd meddwl yn ymddangos cyn 14 oed, gydag un o bob pedwar yn parhau i ddioddef o gyflwr iechyd meddwl erbyn 24*. Mae hyn yn golygu, er bod cefnogaeth iechyd meddwl yn allweddol mewn cyd-destun ysgol, mae hefyd yn hanfodol bod darpariaeth briodol yn parhau i gefnogi pobl ifanc ôl-16, gan gynnwys yn y meysydd addysg bellach, gwasanaethau ieuenctid ac addysg uwch. 

Dywedodd Cadeirydd Grŵp y Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, Simon Pirotte,

“Nid darparwyr addysg yn unig yw sefydliadau addysg bellach. Maent hefyd yn sefydliadau angori yn eu cymunedau. Maent yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr o bob oedran.”

O ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid19, rydym yn awr yn gorfod addasu i ffordd newydd o fyw. Rydym eisoes yn gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n dysgu gartref neu'n gorfod cymryd rhan mewn dysgu cyfunol. Bydd angen felly mynd i’r afael â meysydd newydd a phenodol o ddarpariaeth iechyd meddwl i dargedu pethau megis allgáu digidol neu bryder cymdeithasol. 

Mae ColegauCymru yn parhau i hyrwyddo pwysigrwydd darpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chydweithwyr y llywodraeth a phartneriaid o bob rhan o'r sector addysg i sicrhau bod y ddarpariaeth a'r gefnogaeth fwyaf priodol ar gael. 

Gwybodaeth Bellach

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: 
Sefydlu dull ysgol-gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddyliol 
8 Gorffennaf 2020 
  
* Young Minds Impact Report 2018 - 2019 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.