Dysgu Seiliedig ar Waith, Sgiliau a Chyflogadwyedd - Diweddariad

Catering learners.jpg

Gorffennaf 2022

Ym mis Ebrill, derbyniodd ColegauCymru ddau bot o arian gan Lywodraeth Cymru. Galluogodd un gronfa o gyllideb i ddechrau prosiect newydd a fydd yn cefnogi colegau i werthuso darpariaeth dosbarthiadau meistr a phrosiectau ymchwil i fagu ac adeiladu arbenigedd staff a chynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu dysgwyr. Mae'r gwaith hwn yn parhau. Defnyddiwyd yr ail gronfa o gyllid i arwain prosiect a fydd yn chwarae rhan sylweddol mewn cydgysylltu cynlluniau ar gyfer ehangu ôl-osod a darpariaeth sgiliau gwyrdd ehangach ar draws SABau yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cefnogi colegau wrth iddynt baratoi i gwrdd â gofynion presennol a dyfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sgiliau gwyrdd - rhan o'u Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net.

Digwyddiadau Dysgwrdd Rhwydwaith Addysgu a Dysgu
Ym mis Chwefror 2022, gynhaliodd  Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru y trydydd mewn cyfres o raglenni llwyddiannus o ddigwyddiadau “Dysgwrdd”, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cydweithwyr yn y sectorau addysg bellach a DSW i rannu enghreifftiau o arfer da. Mae’r digwyddiadau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu i gefnogi cyfnewid gwybodaeth ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru. Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar addysgu arloesol ym maes adeiladu addysg bellach, a chroesawyd siaradwyr o Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC), Kier Group, a Chymdeithas Penaethiaid Adeiladu Prydain (BACH), yn ogystal â staff colegau addysg bellach.

Llwyddiant gyda chynllun y Cyfrif Dysgu Personol
Mae cynllun llwyddiannus y Cyfrif Dysgu Personol (CDP), a gafodd ei dreialu’n wreiddiol mewn dau goleg (Coleg Gwent a Grŵp Llandrillo Menai), bellach wedi’i gyflwyno ar draws y sector addysg bellach cyfan. Mae ColegauCymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a cholegau i sicrhau bod y cynllun yn effeithiol wrth gyrraedd y rhai a fyddai’n elwa fwyaf o’r cyfleoedd uwchsgilio sydd ar gael.

Cryfhau'r tîm
Er mwyn cryfhau rôl ColegauCymru mewn DSW a Chyflogadwyedd, ymunodd Cynghorydd Strategol newydd, Jeff Protheroe, â ni ym mis Ebrill 2022. Mae ein Grŵp Strategol DSW a Chyflogadwyedd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ar effaith diwygio cymwysterau, yn enwedig yn y sectorau pwysig Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adeiladwaith a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar effaith yr argyfwng costau byw, gan chwilio am atebion posibl wrth feddwl sut y gall rhwydwaith y colegau gynnal lefelau uchel o ddarpariaeth o ansawdd yng nghyd-destun costau cynyddol.

Further Information

Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.