Dysgu Seiliedig ar Waith, Sgiliau, a Chyflogadwyedd - Diweddariad Hydref

studentapprentices.jpeg

Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth 

Roedd y Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth (KTS) yn gysyniad newydd wedi’i anelu at golegau addysg bellach a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) annibynnol yng Nghymru. Mae’r KTS yn helpu i ariannu’r gwaith o gyflwyno ‘dosbarthiadau meistr’ a/neu brosiectau ymchwil sydd wedi’u cynllunio i gyflymu ac adeiladu arbenigedd ar gyfer staff a chynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu dysgwyr mewn pynciau fel digidol, sgiliau gwyrdd, adeiladu ôl-osod a pheirianneg. Y nod yw dod ag arbenigedd diwydiant i mewn gyda'r pwrpasau penodol o gyflwyno cynnwys a chysyniadau newydd, yn hytrach nag addysgu'r cwricwlwm presennol. Y gobaith yw y bydd hyn yn ei dro yn arwain at ddatblygu rhaglenni dysgu newydd a gwell profiad i ddysgwyr. 

Mae'r KTS wedi'i ddisgrifio fel llwyddiant a dylid parhau â'r cynllun, ac mae colegau'n ei weld fel rhan allweddol o feysydd ehangach datblygu'r gweithlu a'r cwricwlwm. Mae’r KTS wedi profi’r berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhwng colegau a’u cyflogwyr lleol a rhanbarthol, a diddordeb cyflogwyr mewn gallu llunio a dylanwadu ar ddarpariaeth addysg bellach. Mae angen ymrwymiad tymor hir a model ariannu cynaliadwy ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, er mwyn sicrhau nad yw’r momentwm a enillir yn cael ei golli. 

Biwroau Cyflogaeth a Menter 

Bellach, mae gan bob coleg addysg bellach Biwro Cyflogaeth a Menter bwrpasol i helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith trwy eu cefnogi i ddod o hyd i swydd neu sefydlu eu busnes eu hunain. Mae'r Biwroau o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o un o gynlluniau pwysicaf Llywodraeth Cymru, y Warant i Bobl Ifanc, sy'n ymrwymo i ddarparu cymorth i bawb o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. 

Meddai Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogaeth ColegauCymru, 

“Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi dysgwyr addysg bellach wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith. Bydd cyflwyno Canolfannau Cyflogaeth a Menter yn sicrhau bod dysgwyr yn cael yr arweiniad sydd ei angen arnynt i gyflawni eu llawn botensial. 

Gyda chyflogwyr yn addasu’n barhaus i ddiwallu anghenion newidiol economi sy’n symud yn gyflym, mae colegau’n chwarae rhan ganolog yn y cyd-destun lleol a rhanbarthol ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn rhyngwyneb rhyngddynt a gweithlu’r dyfodol, ac i ddiwallu anghenion y ddau.” 

Diwygio Cymwysterau a Fframwaith Prentisiaethau 

Er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth a welwyd eisoes gyda’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru, mae gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu’r cymwysterau sy’n rhan o fframweithiau prentisiaeth, a chynnwys cyffredinol y fframweithiau eu hunain gan ganolbwyntio ar feysydd pwysig Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gwaith hefyd wedi dechrau i ddiwygio cynnwys a siâp fframweithiau prentisiaeth mewn meysydd rhaglen gan gynnwys gwasanaeth teithio a thwristiaeth, manwerthu, chwaraeon a hamdden, a lletygarwch ac arlwyo. 

Mae ColegauCymru yn parhau i weithio’n agos gyda rhwydwaith o randdeiliaid, i sicrhau bod cynnig sgiliau cydlynol ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr Cymru. 

Gwybodaeth Bellach 

Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd 
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.