Gwobrau Cymraeg Gwaith 2020

Work Welsh 2020 Awards.png

Llongyfarchiadau gwresog i’r dysgwyr, tiwtoriaid a sefydliadau ddaeth i’r brig yn y gwobrau cenedlaethol Cymraeg Gwaith eleni. Dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau cenedlaethol gael eu cynnal, gyda dysgwyr o sawl sector yn serennu mewn gwahanol gategorïau.

Yn anffodus, gyda’r amgylchiadau sydd ohoni, nid oedd modd cynnal noson wobrwyo eleni, ond hoffwn gymryd y cyfle i gydnabod yr holl unigolion arbennig sydd wedi llwyddo yn y Cynllun hyd yma.

Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith wedi ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu’r brand Cymraeg Gwaith. Mae’r sector Addysg Bellach wedi bod yn falch o gael bod yn rhan o’r Cynllun ers y peilot yn 2017, ac mae tair blynedd o frwdfrydedd dysgu Cymraeg yn dangos yn amlwg erbyn hyn.

Yn gweithio ochr yn ochr gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae ColegauCymru wedi cydlynu’r prosiect yn y sector addysg bellach, gyda Chynllun 19/20 yn cynnwys 11 Coleg Addysg Bellach, dros 270 o ddysgwyr a chriw da o diwtoriaid medrus.

Dywedodd Iestyn Davies Prif Weithredwr ColegauCymru,

"Fel corff sy'n gweithio'n glos a'r colegau addysg bellach rydym yn falch iawn o’r Cynllun Cymraeg Gwaith a hefyd o'r bartneriaeth gyda’r Ganolfan a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym yn rhannu'r un nodau ac amcanion sef sicrhau bod y gweithlu AB yn gallu cyflawni'r dasg o ddarparu dysgu academaidd a galwedigaethol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a Saesneg. Mae llwyddiant y rhaglen AB yn anogaeth wirioneddol i wneud mwy fyth pe bai cyllid yn parhau i fod ar gael.”

Fel sector, rydym ar ben ein digon i ddod i’r brig mewn tri chategori, gan ddisgleirio gyda phedair gwobr ychwanegol, dyma’r canlyniadau:

Dysgwr Cymraeg Gwaith sydd wedi gwneud y cynnydd gorau (Lefel Mynediad/Sylfaen)
Safle 1af - Sacha Baber, Coleg Penybont
Gyda Sam Owen, Grŵp Colegau NPTC a Julia Davies o Goleg Sir Benfro yn derbyn clod uchel.

Dysgwr Cymraeg Gwaith sydd wedi gwneud y cynnydd gorau (Lefel Canolradd+)
Safle 1af - Sarah Childs, Coleg Ceredigion

Dysgwr Cymraeg Gwaith sy'n gwneud y defnydd gorau o'r Gymraeg yn y gweithle
2ail Safle - Laura Main, Coleg Sir Gâr

Tiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn
3ydd Safle (a) - Heledd Smith, Tiwtor Cymraeg Gwaith Coleg Penybont

Cyflogwr y Flwyddyn
Safle 1af - Grŵp Colegau NPTC

Mae rhestr yr holl enillwyr o bob sector a mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Dysgu Cymraeg.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.