Mae Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru yn falch o rannu manylion cyfres digwyddiadau Dysgwrdd a gynhelir dros y misoedd nesaf.
Mae'r digwyddiadau hyn wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'u cynllunio i roi cyfle i rannu arfer da ac i gefnogi cyfnewid gwybodaeth rhwng cydweithwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 20 Hydref 2021 rhwng 4.30yp a 6.30yp a bydd yn cael ei harwain gan gydweithwyr o golegau ledled rhanbarth De Ddwyrain Cymru.
Rydym yn gofyn i chi rannu manylion y digwyddiad gwych hwn gyda'ch cydweithwyr coleg
Amlinelliad y Rhaglen
Rydyn ni wrth ein bodd y bydd siaradwr gwadd Nina Jackson o Independent Thinking yn ymuno â ni. Mae gwaith Nina ym maes iechyd meddwl a lles wedi cael effaith ysgubol ar blant, athrawon a rhieni fel ei gilydd. Bydd ei sgwrs Pedagogy, Practice and the 4 Cs - Communication, Collaboration, Creativity and Care yn edrych ar sut y gallwn ni fel darlithwyr ac addysgwyr barhau i ysbrydoli myfyrwyr i fod y gorau y gallant fod.
Byddwn hefyd yn clywed gan gyfranwyr o bob rhan o ranbarth y De Ddwyrain gan gynnwys Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Coleg Caerdydd a’r Fro, Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Catholig Dewi Sant a Coleg Penybont.
- Yn y sesiwn hon, byddwn yn ymdrin ag ystod o feysydd addas ac amserol gan gynnwys:
- Podcastio ar gyfer addysgu a dysgu
- Dysgu anweledig - ennyn diddordeb dysgwyr a datblygu sgiliau craidd mewn sesiynau bob dydd
- Addysgu a dysgu yn Second Life
- Rhyngweithio â dysgwyr ar lein
- Awgrymiadau a thriciau ar ennyn diddordeb dysgwyr
- Defnyddio modelu yn y Gyfraith i wella dealltwriaeth dysgwyr o amcanion asesu
Oes gyda chi gwestiwn?
Mae'r Dysgwrdd hwn yn addo bod yn sesiwn addysgiadol a gwerthfawr. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Yn y cyfamser, cysylltwch â lucy.hopkins@colegaucymru.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.