Archebwch le

Colegau Addysg Bellach yn Ganolog i Adferiad Economaidd yng Nghymru: Cyfres cynhadledd ar-lein gan ColegauCymru ac Emsi

emsi banner wel.png

Er mwyn helpu colegau addysg bellach yng Nghymru i fynd i’r afael â’r her o ddeall ac ymateb i’r aflonyddwch economaidd yn eu hardal, mae ColegauCymru ac Emsi wedi ymuno i gyflwyno cyfres o weminarau lle byddwn yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn economi Cymru, beth mae hyn yn ei olygu i golegau ledled Cymru, a sut y gall pob coleg ddefnyddio data i ddeall eu sefyllfa leol, fel y gallant ddarparu a marchnata cyrsiau sydd wedi'u hanelu at anghenion cyflogwyr yn eu hardal. Bydd y digwyddiadau hyn yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol i bawb sydd â diddordeb yn y sector addysg bellach. Bydd y ddau weminar gyntaf yn arbennig o berthnasol i Uwch Dimau Rheoli, Penaethiaid Ysgol, a rheolwyr canol, gyda'r ddau olaf wedi eu hanelu'n fwy at staff gweithredol. Fe welwch fanylion pob gweminar isod, gyda dolen i'r dudalen gofrestru. 

Gweminar 1: Cyflwr y Genedl - Dadansoddiad o Farchnad Lafur Cymru
Dydd Mawrth 10 Tachwedd, 9.00yb - 10.00yb

Dechreuwn gyda golwg gyffredinol ar gyflwr y farchnad lafur yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar effaith yr argyfwng ers mis Mawrth o ran ei effeithiau ar alw cyflogwyr, diweithdra, ac amlygiad i ddiwydiant. Bydd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies yn edrych ar yr heriau hyn o safbwynt addysg bellach. Yn ogystal, bydd y sesiwn yn edrych ar risgiau a chyfleoedd mwy cyffredinol a ddaw yn sgil awtomeiddio. 

Gweminar 2: Colegau yn Arwain yr Adferiad yn ein Cymunedau
Dydd Gwener 13 Tachwedd, 9.00yb - 10.00yb

Ein hail weminar fydd sesiwn banel, dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies. Bydd Rheolwr Gyfarwyddwr Emsi, Andy Durman, a rhai Penaethiaid Coleg yn ymuno ag ef i drafod goblygiadau'r mewnwelediadau a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf, a sut all colegau ledled Cymru arwain eu cymunedau lleol allan o'r argyfwng. 

Gweminar 3: Defnyddio Data Marchnad Lafur i lywio'r Strategaeth Gwricwlwm
Dydd Mawrth 17 Tachwedd, 9.00yb - 10.00yb

Ar ôl edrych ar y darlun cyffredinol o ran effeithiau'r argyfwng yn economi Cymru, a sut y gall colegau ddechrau ymateb fel arweinwyr yn eu hardal, yn y sesiwn hon rydym yn edrych yn ddyfnach ar sut y gall data ar gyfer ardaloedd lleol helpu colegau i ddeall anghenion sgiliau parhaus, a sut y gellir ymgorffori'r rhain wrth gynllunio'r cwricwlwm. 

Gweminar 4: Defnyddio Data Marchnad Lafur i Arwain Mewnwelediadau Gyrfaoedd
Dydd Iau 19 Tachwedd, 9.00yb - 10.00yb

Mae'r sesiwn olaf eto'n edrych ar y manylion, ond y tro hwn nid edrych ar sut y gall data lywio adferiad wrth gynllunio cwricwlwm, ond yn hytrach sut y gellir defnyddio'r un math o ddata i hyrwyddo cyrsiau i bobl yn eich ardal leol, yn enwedig i'r rheini sydd wedi colli eu swyddi ac sy'n edrych i uwchsgilio er mwyn gallu dychwelyd i'r gwaith. 

Cofrestrwch am ddim.

Archebwch le
Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.