Cafodd pandemig Covid-19 effaith enfawr ar iechyd a lles y genedl yn ogystal â'r ymyrraeth â'r system addysg.
Rydym yn falch o'ch gwahodd i weminar lle byddwn yn trafod yr effaith ar chwaraeon a lles mewn colegau addysg bellach ledled Cymru a sut mae'r cysylltiad rhwng gweithgareddau a lles yn cael ei ddatblygu fel ateb.
Yn ymuno â ni ar gyfer y weminar bydd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, a chynrychiolwyr dysgwyr addysg bellach.
Bydd Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru, Rob Baynham, hefyd yn ymuno â ni i rannu canfyddiadau dau adroddiad ymchwil a gomisiynwyd yn ddiweddar: Gwerth Lles Actif i ddysgwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru; a Mewnwelediad lles, dysgwyr chwaraeon addysg bellach ac adferiad o COVID-19 - cefnogi dyfodol Chwaraeon Cymru.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad: 21 Hydref 2021
Amser: 11.00yn - 12.00yp
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Adnoddau
Gwneud y Cysylltiad - Lles Actif a Chwaraeon mewn Addysg Bellach - Cyflwyniad
Gwerth Lles Actif mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru
BlwBo, Mehefin 2021
Craffu ar les, dysgwyr chwaraeon AB ac adferiad COVID-19 – cefnogi dyfodol Chwareon Cymru
BlwBo, Mehefin 2021