Partneriaeth ôl-16 Hyrwyddo llwyddiannau bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Wrth i awdurdodau lleol, colegau ac eraill baratoi i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol newydd, mae'n amlwg mai'r ffordd fwyaf effeithiol i ddiwallu anghenion pobl ifanc yng Nghymru yw trwy weithio mewn partneriaeth. Mae'n hanfodol bod arweinwyr ym maes iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithredu i sicrhau bod darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cael ei darparu mewn ffordd effeithiol ac effeithlon a bod anghenion a dyheadau pobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd yr holl benderfyniadau.
 
Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol ystyried yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil y ddeddfwriaeth newydd a nodi ffyrdd y gallant weithio mewn partneriaeth i ddarparu addysg a hyfforddiant ôl-16 effeithiol i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

2 sesiwn 2.5 awr wedi'u cyflwyno trwy'r Timau o 9.30am ar bob dyddiad.
 
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chris Denham, chris.denham@colegaucymru.ac.uk.

Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.