Cydnabod gweithgareddau lleoliadau gwaith cyfranogwyr o fewn prosiectau symudedd Erasmus+

CPGGraphic.png

Mae ColegauCymru ar ran Prosiect Arbenigwyr ECVET yn falch i gynnal gweithdy am ddim ar gydnabod gweithgareddau lleoliadau gwaith cyfranogwyr o fewn prosiectau symudedd Erasmus+. Er bod Covid19 wedi atal gweithgareddau tramor dros dro, mae gan ColegauCymru gyllid i'w ddefnyddio hyd at ddiwedd 2022 felly rydym yn parhau i gefnogi ein colegau addysg bellach i drefnu profiadau dysgu tramor o safon.

Bydd tîm Arbenigol ECVET y DU yn cynnal gweithdy ar-lein i ddechreuwyr ar 7fed Rhagfyr a byddant yn darparu cefnogaeth ymarferol i ddefnyddio templedi ECVET allweddol ar gyfer prosiectau Erasmus+. 
Cofrestrwch gyda Rheolwr Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran.  

Gwybodaeth Bellach

Mae ECVET (European Credit transfer system for Vocational Education and Training) yn galluogi i'r sgiliau y mae cyfranogwyr yn eu hennill tra dramor gael eu dilysu yn erbyn canlyniadau dysgu'r unigolyn mewn perthynas â'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau sy'n ofynnol i ennill cymhwyster. Mae Asiantaeth Genedlaethol y DU yn argymell yn gryf bod sefydliadau yn ystyried ymgorffori ECVET yn eu prosiectau.

Mae gweithdai'n cael eu trefnu fel rhan o gynllun gwaith 2020 tîm Arbenigwyr ECVET y DU, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o ECVET. Mae'r tîm yn cynnig cefnogaeth am ddim i sefydliadau i ddeall a gweithredu ECVET a'u hannog i ddefnyddio eu gwasanaethau. I ddarganfod mwy o wybodaeth, ewch i wefan Erasmus+.
 

Dyddiad ac Amser

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.