Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ansicrwydd o hyd ynghylch cyfranogiad y DU yn Rhaglen Erasmus+ yn y dyfodol. Mae rhyngwladoli yn parhau i fod yn hynod bwysig ar gyfer datblygu pobl ifanc a hefyd ar gyfer cystadleurwydd busnes.
Mewn partneriaeth â phrosiect Arbenigwyr ECVET, sy’n cael ei chydlynu gan Asiantaeth Cenedlaethol Erasmus+, mae ColegauCymru’n falch o'ch gwahodd i ddigwyddiad bord gron a fydd yn edrych ar sut i drefnu profiadau ystyrlon dramor i ddysgwyr a staff yn y dirwedd hon sy'n newid yn gyflym.
Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Arbenigwyr ECVET a bydd yn gofyn rhai cwestiynau perthnasol, gan gynnwys:
- Pa mor bwysig yw rhyngwladoli mewn addysg a hyfforddiant?
- Faint o bwyslais rydyn ni'n ei roi ar ddatblygu sgiliau pobl?
- Pa mor ystyrlon yw symudedd dysgu rhyngwladol?
- Sut mae dysgu trwy symudedd rhyngwladol yn cael ei gydnabod yn benodol?
- Sut allwn ni ddarparu Symudedd SMaRT?
Pwy ddylai fynychu? Mae'r gweithdy hwn wedi'i dargedu at staff yng Nghymru sy'n ymwneud â symudedd tramor ar gyfer dysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid yn y sector sgiliau.
Cadwch eich lle AM DDIM nawr ecvet.experts@ecorys.com
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ar 26 Tachwedd ar gyfer yr hyn sy'n addo bod yn ddigwyddiad diddorol a defnyddiol. Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran gydag unrhyw gwestiynau.