pexels-cottonbro-6344238.jpg

Mae sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth. Mae’n nodi cyflwyno un o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i bensaernïaeth ein system addysg ers datganoli. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i arloesi gydag un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu cyffredinol ar gyfer addysg drydyddol. 

Daw ar adeg pan fo rôl addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i ddyfodol ein gwlad yn bwysicach nag erioed. P'un a yw'n gwella o'r pandemig, yn siapio dyfodol gwaith, yn addasu i gymdeithas sy'n heneiddio, neu'n cyflymu'r newid i Sero Net, mae colegau'n hanfodol i bob her fawr sy'n ein hwynebu. Yn fyr, nid oes llwybr i Gymru gryfach, decach, wyrddach a dwyieithog nad oes angen sector addysg bellach sy’n perfformio’n dda ac yn gydnerth. 

Erbyn hyn, mae cyllid cyhoeddus dan bwysau sylweddol, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn glir ynghylch ein blaenoriaethau a’n bod yn dangos uchelgais gwirioneddol i fynd i’r afael â’r heriau hirsefydlog sy’n ein hwynebu.

Datganiad o Flaenoriaethau CTER

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.