Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi dramor yn Ewrop. Mae ColegauCymru yn arwain ar gyfleoedd datblygu i ddysgwyr a staff, a hynny drwy gyllid Erasmus+.
Mae ColegauCymru yn cynrychioli’r colegau ar Grŵp Cynghori Gwledydd Erasmus+ a Grŵp Ymgynghorol y Sector. Asiantaeth Genedlaethol y DU dros Erasmus+ sy’n cydlynu cyfarfodydd y ddau grŵp, a’r rheini’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn.
Mae ColegauCymru’n cyflwyno ceisiadau gan gonsortia am gyllid Erasmus+ er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith yn Ewrop am bythefnos neu dair wythnos. Mae’r lleoliadau gwaith hyn yn cyd-fynd â chymwysterau’r dysgwyr yng Nghymru, ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc sy’n gallu gweddnewid eu bywydau, a hwythau o bosibl erioed wedi ystyried cyfleoedd gwaith y tu allan i Gymru.
Dysgwyr a staff yn sôn am fanteision lleoliadau gwaith yn Ewrop
Gwybodaeth Bellach
Sian Holleran
Rheolwr Prosiect - Ewropeaidd a Rhyngwladol
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk