Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi dramor yn Ewrop. Mae ColegauCymru yn arwain ar gyfleoedd datblygu i ddysgwyr a staff, a hynny drwy gyllid Erasmus+.
Mae ColegauCymru yn cynrychioli’r colegau ar Grŵp Cynghori Gwledydd Erasmus+ a Grŵp Ymgynghorol y Sector. Asiantaeth Genedlaethol y DU dros Erasmus+ sy’n cydlynu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn.
Mae colegau Cymru yn cydnabod bod arferion da a syniadau newydd i’w cael mewn mannau eraill, ac mae’r colegau’n mynd ati’n barhaol i edrych ar ddulliau a syniadau newydd ac i sefydlu partneriaethau newydd gyda cholegau tebyg yn Ewrop.
Bydd ColegauCymru’n cyflwyno ceisiadau gan gonsortia am gyllid Erasmus+ er mwyn i ddarlithwyr, arweinwyr a staff cymorth addysg bellach o bob rhan o Gymru gymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus dramor. Ar yr ymweliadau hyn, bydd ColegauCymru yn casglu tystiolaeth, syniadau ac arferion da o dramor er mwyn cyflwyno gwelliannau ar lefel strategol i strwythurau addysg a hyfforddiant galwedigaethol Cymru.
Ers 2014, mae cynrychiolwyr o ColegauCymru, colegau addysg bellach, Estyn a Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o ymweliadau datblygu proffesiynol parhaus Erasmus+ ColegauCymru, gan edrych ar y themâu a’r blaenoriaethau hyn:
- 2014 – Gwella llythrennedd a rhifedd a thorri’r llinyn cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol (Helsinki, Y Ffindir)
- 2015 – Arloesi mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol a chefnogi busnesau bach a chanolig eu maint (Gwlad y Basg, Sbaen)
- 2016 – Amlieithrwydd a gweithio’n agosach gyda chyflogwyr drwy ddatblygu sgiliau sy’n ymateb i anghenion y gweithlu (Catalonia, Sbaen)
- 2017 – Sgiliau lefel uwch mewn lleoliadau addysg bellach (Sonderborg, Denmarc)
- 2018 – Rhyngwladoli mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol (Helsinki, Y Ffindir)
Gwybodaeth Bellach
Sian Holleran
Rheolwr Prosiect - Ewropeaidd a Rhyngwladol
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk