#VocTalks: Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf o Ddysgwyr Galwedigaethol
Mae #VocTalks yn gyfres o weminarau byr a grëwyd yn arbennig ar gyfer dysgwyr coleg yng Nghymru. Mae’r sesiynau ymgysylltiol hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr gysylltu â chyn-fyfyrwyr sydd bellach yn gweithio yn eu meysydd dewisol - gan gynnig mewnwelediad go iawn i’w llwybrau gyrfaol.
Mae'r gweminarau’n cwmpasu sectorau gan gynnwys:
-
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
-
Chwaraeon
-
Arlwyo
-
Busnes
-
Adeiladu
-
Celfyddydau Perfformio
Nod #VocTalks yw ysbrydoli ac addysgu dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol, gan eu helpu i ddeall y sgiliau a’r profiadau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Mae’r weminarau hyn hefyd yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr iau sy’n ystyried eu camau nesaf, gan roi cipolwg gwerthfawr ar yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael ar ôl astudio cwrs galwedigaethol mewn coleg addysg bellach.
Drwy wrando’n uniongyrchol ar bobl sydd wedi astudio cyrsiau tebyg ac wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus, mae dysgwyr presennol a darpar ddysgwyr yn cael darlun cliriach o’r hyn y gall eu haddysg ei gynnig iddynt - ac yn datblygu cysylltiad cryfach â’r diwydiannau y maent yn gobeithio ymuno â hwy.
Gwyliwch #VocTalks