Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18

pexels-armin-rimoldi-5554302.jpg

Ymateb Ymgynghoriad

Llywodraeth Cymru: Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18
Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 31 Mawrth 2026

Rydym yn cefnogi'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer cwricwlwm 16 - 18 eang a hygyrch ond mae gennym bryderon ynghylch disgwyliadau aneglur ar gyfer Medr, yn enwedig o ran atebolrwydd, cysondeb a thegwch ledled Cymru. Mae ColegauCymru yn dadlau bod y canllawiau'n tybio dilyniant llinol i Lefel 3 yn 16 oed, tra bod llawer o ddysgwyr yn dechrau ar wahanol lefelau ac angen llwybrau hyblyg, canllawiau gyrfaoedd o ansawdd uchel a rhannu data gwell o 14 - 16 oed. Rydym hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y bydd uchelgeisiau o ran gweithio mewn partneriaeth, cymwysterau sgiliau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynyddu pwysau llwyth gwaith ac na ellir eu cyflawni'n effeithiol heb weithredu fesul cam a buddsoddiad cynaliadwy.

Gwybodaeth Bellach
Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Willams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.