Degawd o Newid: Addysg Bellach yng Nghymru, 2016–2026

pexels-charlotte-may-5965637.jpg

Wrth i gydweithiwr ColegauCymru, Amy Williams, ddathlu 10 mlynedd yn y sefydliad ym mis Medi 2026, mae'n myfrio ar ddegawd o newid yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru, o ddigwyddiadau polisi mawr a newid gwleidyddol i'r heriau a'r llwyddiannau a brofwyd gan golegau dysgwyr a chymunedau.

Mae'r mis hwn yn nodi fy degfed flwyddyn yn ColegauCymru, sy'n teimlo fel adeg dda i fyfyrio ar faint mae Addysg Bellach yng Nghymru wedi newid ers 2016. Dros y degawd hwmmw, mae colegau wedi llywio newid gwleidyddol, diwygiadau mawr, galw cynyddol a phandemig byd-eang, tra'n parhau i gefnogi dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr.

Un o'r newidiadau strythurol mwyaf yw creu Medr, y Comisiwn Addysg ac Ymchwil Trydyddol, a ddaeth yn weithredol yn 2024. Mae Medr bellach yn dod ag Addysg Bellach, Addysg Uwch, prentisiaethay, dysgu oedolion a chweched dosbarth ysgol mewn un system addysg ac ymchwil drydyddol. 

Mae'r dirwedd wleidyddol wedi newod yn sylweddol. Mae Cymru wedi cynnal dau etholiad i'r Senedd ers 20216 ac erbyn hyn mae ganddi Lywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru. Mae gan y llywodraeth newydd gyfle i gydnabod y rôl ganolog y mae colegau yn ei chwarae mewn addysg, sgiliau, twf a chymunedau cryfach.

Mae'r system addysg ehangach wedi'i thrawsnewid gan Gwricwlwm Cymru. Mae ei gyflwyniad wedi newid yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddysgu a sut maen nhw'n ei ddysgu, gyda goblygiadau pwysig i'w trosglwyddo i addysg ôl-16. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) wedi bod yn ddarn pwysig arall o ddeddfwriaeth. Creodd system unedig ar gyfer dysgwyr rhwng 0 a 25 oed a gosododd gyfrifoldebau newydd ar golegau i nodi anghenion a darparu cymorth unigol.

Llywio Covid-19 ac Argyfwng Costau Byw 

Ni fyddai unrhyw fyfyrio ar y degawd yn gyflawn heb sôn am Covid-19. symudodd colegau i addysg ar-lein ar gyflymder rhyfeddol tra'n parhau i gefnogi dysgwyr agored i niwed, benthyg offer digidol a helpu cymunedau a chyflogwyr. Cyflymodd y pandemig ddysgu digidol ond amlygodd hefy anghydraddoldebau, dysgu coll a'r angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl a lles.

Daeth yr argyfwng costau byw â phwysau newydd i ddysgwyr a'u teuluoedd. Gwelodd colegau uniongyrchol y dewisiadau anodd a wynebodd rhai pobl ifanc, gyda rhai yn camu i ffwrdd o addysg yn gyfan gwbl i gefnogi cyllid cartrefi neu fynd i waith yn gynt na'r cynllun. Mae'r effeithiau yn dal i gael eu teimlo heddiw, yn enwedig o ran cludiant dysgwyr. Mae cynllun tocynnau bws £1 Llywodraeth cymru yn gam i'w groesawu i helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae lle i gynd ymhellach, yn enwedig i ddysgwyr a phrentisiais sy'n dal i wynedu costau teithio sylweddol a rhwystrau i gymryd rhan.

Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith 

Mae prentisiaethau wedi parhau i ddarparu profiadau sy'n newid bywydau i ddysgwyr, ond maent hefyd wedo wynebu heriau sylweddol dros y degawd diwethaf. Wrth i gyflogwyr ymdopi ag ansicrwydd economaidd, mae cyfleoedd prentisiaeth wedi dod o dan bwysau oherwydd heriau ariannu, ac o ganlyniad, gwelodd Cymru ostyngiad sylweddol yn nifer y rhai a ddechreuodd brentisiaethau. Gweithiodd ColegauCymru yn agos gyda cholegau, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i wneud yr achos dros fuddsoddiad ychwanegol a diogelu cyfleoedd i ddysgwyr. Er gwaethaf yr heriau hyn mae prentisiaethau yn parhau i fod yn stori lwyddiant mawr i Gymru, gan roi cyfle i filoedd o bobl ennill wrth iddynt ddysgu, cefnogi datblygiad y gweithlu a helu cyflogwyr i fynd i'r afael â phrinder sgiliau.

Mae dysgu oedolion wedi wynebu heriau arbennig o sylweddol. Mae gostyngiadau cyllid ar ddechrau'r degawd wedi cyfrannu at ostyngiad mewn cyfranogiad, gyda chyllidebau dysgu oedolion yn y gymuned wedi'u torri o fwy na thraean. Ers hynny, bu cynnydd i'w groesawu a chydnabyddiaeth o'r newydd o ddysgu gydol oes, ond bydd angen buddsoddiad parhaus fel y gall oedolion ailhyfforddi, gwella sgiliau hanfodol ac ymateb i newid economaidd.

Cwrdd â'r galw cynyddol 

Effallai mai'r duedd fwyaf arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf yw'r nifer cynyddol o bobl ifanc sy'n dewis Addysg Bellach fel eu llwybr ôl-16, wedi'u deny gan gymysgedd amrywiol o gymwysterau academaidd, galwadigaethol a thechnegol. Ym mis Medi, mae colegau ledled Cymru unwaith eto yn adordd galw digynsail.

Ond mae'r llwyddiant hwnnw'n dod â'i heriau ei hun. Mae colegau yn cael eu gordanysgrifio fwyfwy, gyda llawer yn cofrestru dysgwyr y tu hwnt i'r niferoedd a ariennir yn hytrach na gwrthod pobl ifanc. Hed fuddsoddiad ychwanegol gan Medr a Llywodraeth \cymru, mae colegau yn wynebu penderfyniadau anodd ynghylch darpariaeth, staffio a lleoedd i ddysgwyr. Mae'r dewid arall yn annerbyniol: mwy o bobl ifanc heb gyfleoedd a chynnydd yn y nifer nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

Edrych ymlaen 

Wrth i \gymru ddechrau pennod wleidyddol newydd, mae'r degawd nesaf yn cyflwyno cyfle i adeiladu ar y cynnydd hwn a sicrhau bod gan golegau y gallu i ateb y galw yn y dyfodol. Mae colegau wedi dangos eu bod yn gallu darparu sgiliau, cyfleoedd a thwf economaidd, yn aml yn wyned heriau sylweddol.

Bydd ColegauCymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r tîm newydd yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llais colegau, dysgwyr a chymunedau'n cael ei glywed ar lefelau uchaf y llywodraeth. Nawr yw'r amser i Lywodraeth \cymru a Medr baru uchelgais y sector â'r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod pob dysgwr sydd eiesiau lle coleg yn gallu cael mynediad at un.

Mae edrych ymlaen hefyd yn gwneud i mi fyfyrio ar y gorffennol. Mae'r deng mlynedd diwethaf wedi dod â newidiadau mawr yn fy mywyd fy hun, ochr yn ochr â phopeth rydw i wedi'i weld ar draws Addysg Bellach yng Nghymru. Bu cerrig milltir llawen, gan gynnwys genedigaeth fy mhlant, fy mhriodas a symud cartref, ond hefyd eiliadau o golled a thristwch sy'n rhan anochel o fywyd.

Trwy gydol y cyfan, mae ColegauCymru a'r sector Addysg Bellach wedi bod yn gyson. Rydym yn aml yn meddwl am waith a bywyd fel pethau ar wahân, ond dros amser maent yn cydblethu. Mae'r bobl rydyn ni'n gweithio gyda, yr heriau rydyn ni'n eu rhannu a'r pwrpas sy'n dod â ni at ein gilydd yn dod yn rhan o'n stori ein hunain.

Efallai mai dynna sy'n gwneud pen-blwydd yn ystyrlon: cydnabod nid yn unig faint mae'r byd o'n cwmpas wedi newid, ond hefyd sut mae'r sefydliadau y cydweithwyr a'r cymunedau rydyn ni'n rhan ohonynt yn helpu i'n siapio trwy newidiadau bywyd.

Wrth i mi edrych ymlaen at y degawd nesaf, rwy'n teimlo'n ffodus i fod wedi treulio'r deng mlynedd diwethaf yn gweithio mewn sector sy'n newid bywydau bob dydd, ac rwy'n gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i golegau, dysgwyr a Chymru.

--- 

Diolch, Amy, am ddeng mlynedd o ymrwymiad, mewnwelediad ac ymroddiad i ColegauCymru a'r sector Addysg Bellah yng Nghymru. Mae eich cyfraniad dros y degawd diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cydweithwyr, ein colegau ac, yn bwysicaf oll, i'r dysgwyr a'r cymunedau rydyn ni'r eu gwasanaethu.

Llongyfarchiadau ar ddeng mlynedd - a dyma i'r bennod nesaf!

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.