Addewid Gydol Oes: Hyrwyddo Addysg Oedolion ar gyfer Cymru Ffyniannus

Manifesto 2026 Main Page Banner CYM.png

Wrth i ni ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, mae ColegauCymru yn cyflwyno achos clir a chymhellol dros addysg gydol oes yn ein Maniffesto ar gyfer Etholiad Senedd 2026. Gyda byd gwaith yn esblygu'n gyflym - wedi'i yrru gan sgiliau gwyrdd, trawsnewid digidol, a deallusrwydd artiffisial - rhaid i addysg oedolion fod wrth wraidd strategaeth Cymru ar gyfer adnewyddu economaidd a lles cymdeithasol. 

Mae ein galwad i weithredu yn syml: sicrhau bod gan bob oedolyn yng Nghymru’r cyfle i ddysgu, tyfu, a chyfrannu drwy gydol eu hoes. 

Mae ffocws ein Maniffesto Etholiad Senedd 2026 ar Dwf, Cyfle a Thegwch. 

  • Tyfu'r economi Mae Maniffesto Etholiad Senedd 2026 ColegauCymru yn tynnu sylw at sut mae addysg oedolion ac uwchsgilio yn rhan allweddol o adeiladu economi Gymreig fodern, yn ogystal â pharatoi ar gyfer natur newidiol gwaith; yr angen am fwy o sgiliau gwyrdd a'r cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial. 
  • Gwella cyfranogiad, cynnydd a chanlyniadau Mae addysg gydol oes hefyd yn darparu ymdeimlad o les a phwrpas, gan helpu i fynd i'r afael â materion cymdeithasol fel unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae'r manteision hyn yn eu tro yn rhoi'r offer i gymunedau ffynnu. Mae dysgu sgiliau newydd nid yn unig yn helpu pobl i ennill gwaith ond mae'n caniatáu i ni i gyd gadw i fyny â byd sy'n newid a'n gweithleoedd sy'n trawsnewid yn gyflym. 
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhyng-genedlaethol a thlodi Mae cyfranogiad mewn dysgu gydol oes wedi gostwng dros y degawd diwethaf yng Nghymru gydag anghydraddoldebau mawr o ran mynediad at ddysgu yn ôl oedran, grŵp economaidd-gymdeithasol, a chyrhaeddiad addysgol blaenorol. Y rheswm dros y gostyngiad mawr hwn oedd gostyngiad mawr mewn cyllid yn 2013, nid gostyngiad mewn angen na galw. Gostyngwyd cyllid ar gyfer dysgu cymunedol i oedolion 37.5%, tra bod cyllidebau ar gyfer addysg bellach ran-amser wedi'u torri 33%. Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion yn hanfodol i'r unigolion hynny sydd wedi cael eu tan-wasanaethu, ac sydd bellaf i ffwrdd o addysg a chyflogaeth. 

Wrth i bwysau ariannu ddwysáu, rhaid inni osgoi culhau'r cynnig cwricwlwm. Bydd cau neu leihau'r ddarpariaeth yn golygu canlyniadau negyddol ar iechyd a gwasanaethau eraill. 

Mae ffioedd a chyllid i dalu costau byw hefyd yn bryder mawr i ddysgwyr. Yn aml, diffyg cyllid cynhaliaeth, a'r angen i barhau i weithio, sy'n rhwystrau i ddilyn addysg bellach ac uwch. 

Ein Hargymhellion

Er mwyn sicrhau y gall addysg oedolion barhau i helpu cymunedau i ffynnu yng Nghymru, dylai Llywodraeth nesaf Cymru, gan weithio gyda Medr: 

  • ymrwymo i ddarparu hawl newydd i addysg gydol oes i bob oedolyn yng Nghymru. Dylai hyn fod yn nod polisi hirdymor sy'n dechrau gyda gwrthdroi toriadau i addysg oedolion, cyflwyno llinellau ariannu newydd i ganiatáu i golegau ddarparu ailsgilio ac uwchsgilio cyflym a hyblyg ac sydd yn y pen draw yn caniatáu i unigolion gael mynediad at gronfa ddysgu hyblyg, bersonol y gallant ei defnyddio drwy gydol eu hoes; 

  • buddsoddi mewn cyflwyno Cydnabod Dysgu Blaenorol i gefnogi oedolion â'r cymwysterau lleiaf i gael cydnabyddiaeth am y sgiliau sydd ganddynt. Bydd hyn yn helpu i gyflymu dysgwyr i gyflawni cymwysterau cydnabyddedig a rhoi'r cyfle iddynt gael swyddi mwy medrus a chyflog uwch; a 

  • chydnabod y cyfleoedd a'r heriau o ddatblygiad AI drwy weithio gyda cholegau i sicrhau bod gan bob oedolyn sydd ei eisiau'r mynediad at addysg sydd ei angen arnynt i ddeall hanfodion defnyddio AI. Dylai colegau gael eu hariannu a'u cefnogi gan Lywodraeth nesaf Cymru a chan Medr i fod yn ddarparwyr rheng flaen addysg sylfaenol AI, i fod yn rhan o'r llwybr i yrfaoedd AI ac i gefnogi cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithluoedd.  

Dysgwch Fwy - Maniffesto ColegauCymru ar gyfer Etholiad Senedd 2026 
Byddwn yn lansio ein Maniffesto ar gyfer Etholiad Senedd 2026 ddechrau mis Hydref. Cyhoeddir manylion ar ein gwefan. Gallwch hefyd gysylltu Tanwen.James@ColegauCymru.ac.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr ebost.  

Gwybodaeth Bellach 

Wythnos Addysg Oedolion - Paid Stopio Dysgu 
15 - 21 Medi 2025 

Adroddiad ColegauCymru 
Dangos gwerth cymdeithasol colegau addysg bellach yng Nghymru 
Ebrill 2024 

Amy Williams, Swyddog Polisi ColegauCymru 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.