Ymateb Ymgynghoriad
Grŵp Hollbleidiol Seneddol (APPG) ar Brentisiaethau: Sut gall prentisiaethau gefnogi uchelgais twf economaidd drwy'r Strategaeth Ddiwydiannol?
Dyddiad Cau ar gyfer ymateb: 1 Awst 2026
Mewn ymateb i Alwad am Dystiolaeth y Grŵp Hollbleidiol (APPG) ar Brentisiaethau ar gyfer Prentisiaethau a'r Strategaeth Ddiwydiannol, mynegodd ColegauCymru ein cefnogaeth i osod prentisiaethau wrth wraidd twf economaidd. Er bod ffocws yr APPG yn bennaf ar Loegr, tynnodd ein hymateb sylw at y rôl hanfodol y mae colegau Cymru yn ei chwarae wrth ddarparu prentisiaethau, addysg dechnegol ac uwchsgilio'r gweithlu, gan helpu cyflogwyr i ddatblygu talent ac ymdrin â phrinder sgiliau mewn sectorau allweddol gan gynnwys gweithgynhyrchu, ynni glân, digidol, gwyddorau bywyd ac adeiladu.
Pwysleisiwyd bod polisi prentisiaethau wedi'i ddatganoli a bod diwygiadau yn Lloegr yn gallu cael goblygiadau sylweddol i Gymru, yn enwedig i gyflogwyr sy'n gweithredu ar draws ffiniau. Er ein bod yn croesawu ymdrechion i alinio darpariaeth sgiliau â blaenoriaethau diwydiannol, rydym yn galw am gydweithio cryfach rhwng Sgiliau Lloegr, Llywodraeth Cymru, Medr a darparwyr i sicrhau bod diwygiadau'n effeithiol ledled y DU. Rydym hefyd yn cefnogi mwy o hyblygrwydd trwy ddysgu modiwlaidd lle mae'n ymateb i anghenion y gweithlu, gan bwysleisio y dylai ategu, yn hytrach na disodli, rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel.
Mae'r ymateb yn dod i'r casgliad y bydd cyflawni uchelgeisiau Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn gofyn am fuddsoddiad cynaliadwy mewn colegau, y gweithlu sy'n darparu addysg a hyfforddiant, a phartneriaethau cyflogwyr. Rydym hefyd yn tynnu sylw at yr angen am gydweithio agosach rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru i sicrhau bod prentisiaethau’n parhau i sbarduno twf economaidd, cynhyrchiant a chyfleoedd.
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Ymgynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk