Rhoddwyd cyfle unigryw i ddysgwyr benywaidd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ymgysylltu ag uwch arweinwyr benywaidd o bob cwr o wleidyddiaeth, materion cyhoeddus a chyfathrebu mewn digwyddiad Mentora ysbrydoledig a gynhaliwyd gan ColegauCymru a Women in Public Affairs Cymru (WiPA) ddoe.
Wedi'i gynnal ym mwyty’r Dosbarth yn y Coleg, daeth y digwyddiad â dysgwyr ynghyd â phanel trawiadol o fentoriaid a rannodd eu teithiau gyrfa bersonol, heriau a chyngor ar arweinyddiaeth, cynrychiolaeth a meithrin hyder.
Roedd y panel mentora yn cynnwys y Farwnes Carmen Smith, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS; Heledd Fychan AS; Nerys Evans, Cyfarwyddwr Cavendish Consulting; Clare Jones, Grasshopper Communications; a Dirpwy Arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris AS. Trwy gyfres o sgyrsiau cyflym mewn grwpiau bach, cafwyd y cyfle i ofyn cwestiynau, cael cipolwg ar ystod eang o lwybrau gyrfa a chlywed yn uniongyrchol beth sydd ei angen i lwyddo mewn bywyd cyhoeddus.
Drwy gydol y sesiwn, pwysleisiodd mentoriaid bwysigrwydd credu ynoch chi'ch hun, cymryd cyfleoedd a pheidio ag ofni camu ymlaen i swyddi arweinyddiaeth. Anogwyd dysgwyr i gydnabod eu potensial eu hunain ac i weld cynrychiolaeth fel grym pwerus ar gyfer newid.
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable,
“Roedd digwyddiad heddiw yn ysbrydoledig iawn, ac yn gyfle gwych i ddysgwyr y coleg siarad yn uniongyrchol â menywod sy'n ffigurau blaenllaw yng ngwleidyddiaeth, materion cyhoeddus a chyfathrebu Cymru gan helpu i chwalu rhwystrau a meithrin hyder. Roedd y neges gan ein mentoriaid yn glir - credwch ynoch chi'ch hun, manteisiwch ar gyfleoedd pan fyddant yn codi, a pheidiwch ag ofni anelu'n uchel. Fedra i ddim aros i weld beth mae ein dysgwyr yn ei wneud nesaf ar eu teithiau dysgu.”
Ychwanegodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James,
“Roeddem yn falch o gynnal y digwyddiad ysbrydoledig hwn a rhoi cyfle i'n dysgwyr glywed yn uniongyrchol gan fenywod mor ddylanwadol. Anogodd y sgyrsiau hyder, uchelgais a chred yn eu potensial eu hunain.”
Mae digwyddiad Mentora Cyflym yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus ColegauCymru i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynrychiolaeth, ac i greu cyfleoedd sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu'r hyder a'r uchelgais i ddilyn rolau arweinyddiaeth yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Hoffai ColegauCymru ddiolch i WiPA Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro, a holl aelodau'r panel am eu cyfraniad at ddigwyddiad pwerus a chofiadwy.
Gwybodaeth Bellach
Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk