Adeiladu ar Gynnydd: Colegau Addysg Bellach yn Parhau â’r Gwaith i Fynd i’r Afael â cham-drin merched a Hyrwyddo Perthnasoedd Parchus

Wales 16 year olds vote (1).jpg

Bydd dynion ifanc a bechgyn o golegau addysg bellach ledled de-orllewin Cymru yn dod ynghyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar 28 Medi ar gyfer digwyddiad rhanbarthol pwerus sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â cham-drin merched, herio agweddau niweidiol a hyrwyddo perthnasoedd parchus. 

Trefnir y digwyddiad gan ColegauCymru, gyda chyllid gan Medr a chefnogaeth gan Our Voice Our Journey (OVOJ) a Choleg Gŵyr Abertawe. Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwr a gydnabyddir yn rhyngwladol, Matt Brown, sylfaenydd She Is Not Your Rehab, y mae ei waith yn annog dynion ifanc i dorri cylchoedd trais, meithrin perthnasoedd parchus a chymryd cyfrifoldeb am greu newid cadarnhaol. 

Bydd y digwyddiad yn dod â dysgwyr o Goleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Benfro, Grŵp Colegau NPTC a Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion ynghyd. Mae’r fenter yn adeiladu ar raglen gynyddol o waith ar draws colegau addysg bellach Cymru mewn ymateb i bryderon a amlygwyd gan Estyn ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ac agweddau niweidiol tuag at fenywod a merched

Adeiladu ar Weithredu Presennol ar Draws y Sector 

Ers 2024, mae colegau ledled Cymru wedi bod yn cydweithio drwy raglen a arweinir gan ColegauCymru, sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â cham-drin merched a hyrwyddo perthnasoedd parchus. Gyda chefnogaeth partneriaethau rhyngwladol a phrosiectau a ariennir, mae’r gwaith hwn eisoes wedi ymgysylltu â channoedd o ddysgwyr a staff mewn sgyrsiau am wrywdod, parch, cydraddoldeb a pherthnasoedd parchus. 

Mae’r digwyddiad sydd ar y gweill yn ne-orllewin Cymru yn cynrychioli cam nesaf y gwaith hwn, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â dynion ifanc a bechgyn mewn sgyrsiau ystyrlon a all herio ymddygiadau niweidiol cyn iddynt ymwreiddio. 

Bydd OVOJ yn casglu tystiolaeth o agweddau dysgwyr cyn ac ar ôl y digwyddiad er mwyn gwerthuso effaith sesiwn Matt Brown. Yna, bydd y colegau sy’n cymryd rhan yn cael cymorth parhaus gan OVOJ i ddarparu ymyriadau wedi’u targedu gyda grwpiau llai o ddysgwyr dros o leiaf bedair sesiwn. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys hyfforddiant, adnoddau a dulliau gwerthuso, gan alluogi colegau i wreiddio’r dysgu a chynnal yr effaith y tu hwnt i’r digwyddiad ei hun. 

Ochr yn ochr â’r gweithgarwch rhanbarthol hwn, mae ffrwd benodol o gyllid gwerth £45,000 gan Medr i gefnogi gwaith archwiliol gyda menywod ifanc a merched mewn lleoliadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru. Bydd y model cyflawni ar gyfer y ffrwd gyllido hon yn cael ei drafod yn fanylach yng Ngrŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ColegauCymru. Y nod fydd creu cyfleoedd i golegau y tu hwnt i’r rhai sy’n ymwneud â digwyddiad Matt Brown elwa ar y cyllid, gyda’r holl ddysgu a’r arfer effeithiol yn cael eu rhannu ar draws y sector addysg bellach. 

Bydd canfyddiadau’r prosiect yn cael eu dwyn ynghyd mewn adroddiad astudiaeth gymharol, gan helpu i lywio gwaith yn y dyfodol ar draws y sector addysg bellach. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Our Voice Our Journey, Anne-Marie Lawrence, 

"Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod am gael mannau diogel i archwilio materion sy’n ymwneud â pharch, perthnasoedd ac ymddygiadau niweidiol. Mae’r prosiect hwn yn ein galluogi nid yn unig i glywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr, ond hefyd i fesur effaith ymyriadau a chefnogi colegau i ddatblygu dulliau ystyrlon sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Drwy gydweithio, gallwn helpu i greu amgylcheddau lle gall parch, cydraddoldeb a pherthnasoedd cadarnhaol ffynnu." 

Ychwanegodd Rheolwr Prosiect ColegauCymru, Siân Holleran, 

"Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae colegau ledled Cymru wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i fynd i’r afael â misogyny a hyrwyddo perthnasoedd parchus. Gwyddom fod newid cynaliadwy yn deillio o greu lle i bobl ifanc gymryd rhan mewn sgyrsiau agored a gonest, gan roi cyfleoedd iddynt fyfyrio, dysgu a herio agweddau. Mae Matt Brown ac OVOJ yn gwneud gwaith ysbrydoledig sy’n cael effaith yn y maes hwn, ac rydym wrth ein bodd o’u gweld yn parhau â’r sgyrsiau pwysig hyn gyda dysgwyr addysg bellach ledled de-orllewin Cymru." 

Dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr, Paul Kift, 

“Nid yw gwir gryfder yn ymwneud ag ymddangos fel pe na bai unrhyw beth yn effeithio arnoch; mae’n ymwneud â bod yn ddigon dewr i fod yn onest, i geisio cymorth ac i gymryd cyfrifoldeb. 

Mae gan golegau ddyletswydd i greu mannau diogel lle gall dynion ifanc siarad yn agored, heb gywilydd. Mae gan bob dyn ifanc y gallu i ddylanwadu ar y diwylliant o’i gwmpas, boed hynny drwy herio sylw niweidiol neu wirio sut mae ffrind yn ymdopi. 

Dim ond drwy bartneriaethau cryf y mae digwyddiadau fel hwn yn bosibl, ac rydym yn ddiolchgar i Medr, ynghyd â ColegauCymru ac Our Voice, Our Journey, am helpu i ddod â dynion ifanc o golegau ledled de-orllewin Cymru ynghyd ar gyfer y sgwrs hanfodol hon. 

Os bydd heddiw yn annog hyd yn oed un person i geisio cymorth neu i ailystyried ei ddewisiadau ei hun, bydd wedi gwneud gwahaniaeth.” 

Edrych tua’r Dyfodol 

Yn ategu’r gwaith hwn mae’r bartneriaeth barhaus, a gefnogir gan gyllid Taith, rhwng ColegauCymru a’r Ending Violence Association of British Columbia (EVA BC). 

Ym mis Mehefin 2026, cyflwynodd EVA BC sesiwn ar-lein ragarweiniol i’r sector addysg bellach ar ei rhaglen Be More than a Bystander, gan helpu colegau i ddeall y dull gweithredu, nodi staff priodol a sicrhau cymorth ar gyfer ei rhoi ar waith. Bydd yr hyfforddiant ar gyfer staff colegau dethol yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2027, gan gryfhau ymhellach allu’r sector i herio agweddau niweidiol, hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol a gwreiddio perthnasoedd parchus ar draws cymunedau colegau. 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad Thematig Estyn 

Aflonyddwch rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg bellach ­ 
7 Mehefin 2023 
 
Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei gyflawni ar draws colegau addysg bellach Cymru, mae’r fideo byr hwn yn tynnu sylw at y gwaith o fynd i’r afael â cham-drin merched, hyrwyddo parch a chefnogi perthnasoedd parchus. 
Gwyliwch yma: Mynd i'r Afael â Cham-drin Merched a Hyrwyddo Perthnasoedd Parchus 

ColegauCymru 
Mynd i'r afael â cham-drin merched a hyrwyddo perthnasoedd parchus yn y sector Addysg Bellach 

She Is Not Your Rehab 

Our Voice Our Journey (OVOJ) 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.