Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro, Mike James, yn cael ei anrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin

pexels-armin-rimoldi-5554302.jpg

Mae ColegauCymru wrth ein bodd yn llongyfarch Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro, ar gael ei anrhydeddu ag MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2026 am ei gyfraniad at addysg a sgiliau'r dyfodol ledled Cymru a'r DU.

Mae Mike James wedi arwain Coleg Caerdydd a'r Fro gyda gweledigaeth ac ymrwymiad ers ei ffurfio yn 2011, gan chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid addysg bellach a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru. O dan ei arweinyddiaeth, mae'r coleg wedi dod yn un o'r sefydliadau addysg bellach mwyaf a mwyaf dylanwadol yn y DU, gan gefnogi miloedd o ddysgwyr ynghyd â gweithio'n agos gyda chyflogwyr a phartneriaid i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Rydym yn hynod falch o weld Mike yn cael ei gydnabod gydag MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin. Mae ei arweinyddiaeth, ei angerdd a’i ymroddiad i wella cyfleoedd i ddysgwyr a chryfhau cysylltiadau rhwng colegau, cyflogwyr a chymunedau yn enghraifft o’r gorau yn y sector addysg bellach.”

Mae MBE Mike yn cydnabod ei effaith sylweddol ar addysg bellach, dysgu gydol oes a datblygu’r gweithlu, ac yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae colegau’n ei chwarae wrth adeiladu twf economaidd a lles cymunedol ledled Cymru a gweddill y DU. 

Mae ColegauCymru yn estyn llongyfarchiadau calonogol i Mike James ar yr anrhydedd haeddiannol hon. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth y DU 
UK celebrates community champions in HM The King's New year Honours list 
HM The King’s New Year Honours List 2026 recognises community champions who have made outstanding contributions to their communities across the UK. 
29 Rhagfyr 2025

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.