Mae ColegauCymru yn falch iawn o ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025, amser i dynnu sylw at effaith drawsnewidiol prentisiaethau ar ddysgwyr, busnesau ac economi Cymru. Fel llwybr pwysig at gyflogaeth ystyrlon, mae prentisiaethau’n parhau i ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad hanfodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu yn y gweithle.
Drwy gydol yr wythnos, bydd colegau ledled Cymru yn arddangos hanesion llwyddiant prentisiaid sydd wedi ennill cymwysterau gwerthfawr a phrofiad ymarferol wrth ennill cyflog. O beirianneg a gofal iechyd i dechnolegau digidol a’r diwydiannau creadigol, mae prentisiaethau’n parhau i fod yn llwybr deinamig ac ymatebol i yrfaoedd cynaliadwy.
Fel rhan o’r dathliadau ac mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), mae ColegauCymru yn falch o gynnal Ffair Brentisiaethau yn y Senedd ddydd Mercher, 12 Chwefror 2025. Bydd y digwyddiad hwn, a gynhelir gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Brentisiaethau, wedi’i gyd-gadeirio gan Luke Fletcher AS a Joyce Watson AS, yn dod ag arddangoswyr at ei gilydd o’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael mewn colegau addysg bellach a hyfforddiant sydd ar gael yng Nghymru.
Bydd ymwelwyr i ddigwyddiad y Senedd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arddangosiadau ymarferol, gan gynnwys weldio rhithiol, peirianneg awyrennau model, ac ailorffennu cyrff cerbydau. Bydd yr arddangosion rhyngweithiol hyn yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar y sgiliau ymarferol a ddatblygir trwy raglenni prentisiaeth, gan amlygu eu rôl mewn arfogi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd o ansawdd uchel.
Byddwn hefyd yn croesawu'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae prentisiaethau yn hanfodol ar gyfer adeiladu gweithlu medrus a chefnogi economi Cymru. Maent yn cynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau i unigolion ennill, dysgu a symud ymlaen wrth helpu busnesau i dyfu a llwyddo.
Rydym yn falch o ddathlu cyflawniadau prentisiaid yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i hyrwyddo’r llwybr hanfodol hwn ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.”
Mae ColegauCymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi datblygiad rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel sydd o fudd i unigolion, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk